Tudalen:Bywyd a Llafur John Wesley.pdf/5

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr oedd ganddynt yn eu gwlad eu hunain. Ond nis gallwn yma ddysgrifio yr hyn a welodd ac a glywodd yno. Digon yw nodi iddo dderbyn cryfhad i'w ffydd yno, a symbyliad newydd i ymroddiad Cristionogol. Pan ddychwelodd i Lundain, enynai ei enaid gan sêl Duw, a phregethai dan arddeliad mawr, gan amcanu adfywio Cristionogaeth ysgrythyrol yn yr Eglwys Sefydledig. Ar yr adeg yma, nid oedd ganddo un amcan pellach. Glynai mewn cymundeb i'r Eglwys Sefydledig hono, a pharhaodd i gyfyngu ei weinidogaeth i'w hadeiladau cyhyd ag y cadwyd ei drws yn agored iddo. Charles, ei frawd, a Whitfield, dan yr un bedydd ysprydol, ac yn cydlafurio yn egnïol gyda golwg ar yr unrhyw amcan—i adfywio crefydd bur yn yr Eglwys. Cyn hir, cauwyd llawer o'i phulpudau i'w herbyn, fel nad oedd ganddynt ddim i'w wneuthur namyn pregethu yn yr awyr agored. Y cyntaf i gymeryd y cam beiddgar, ond gwerthfawr, hwn oedd Whitfield. Yn y flwyddyn 1739, yn ol esiampl a thrwy anogaeth Whitfield, torodd John Wesley hefyd drwyddi, a phregethodd allan yn Bristol i dair mil o wrandawyr. Creodd hyn gyfnod newydd yn hanes y Methodistiaid, fel eu gelwid. Cyn hyny, dygid hwy yn gaeth gan y syniad defodol o sancteiddrwydd lleol; ac addefodd Wesley y golygai y pryd hyny y buasai braidd yn bechod achub enaid, os na wnelsid hyny tu fewn i furiau cysegredig. Ond rhoddwyd terfyn bythol ar yr ofergoeledd hwn pan ddechreuasant bregethu allan; ac oni buasai yr oruchafiaeth hon, diamheu genym na fuasai eu llwyddiant fel diwygwyr yn agos y peth yw, na Threfnyddiaeth Wesleyaidd, fel y mae, erioed wedi dechreu bodoli. Bellach, ar ol cael ei hyfforddi gan y Morafiaid yn ffordd iachawdwriaeth, cafodd adnabod yr iachawdwriaeth hono yn bersonol, yn nghyda bwrw ymaith un o erthyglau sylfaenol ei ucheleglwysyddiaeth; a dechreuodd John Wesley ar waith mawr ei oes gyda dwylaw rhyddion, a gweithiodd o ddifrif. Er nad oedd ganddo y bwriad lleiaf i sylfaenu sect 'r tu allan i gyffin yr Eglwys Wladol, eto, fel canlyniad naturiol, os nad anocheladwy, i'w lafur a'i lwyddiant, daeth enwad felly i fodolaeth yn mron er ei waethaf. Dan nerth ei weinidogaeth ef a Whitfield, cynhyrfwyd y deyrnas; ac yn eithaf naturiol, ymwasgodd y bobl a ddwysbigwyd yn eu calonau at y diwygwyr am ymgeledd ysprydol; ac ar gais y bobl hyn, ffurfiodd Wesley gymdeithas grefyddol yn y flwyddyn 1741, o'r hon y tyfodd yr enwad lluosocaf o Ymneillduwyr sydd ar wyneb y ddaear. Dechreuwyd yr achos yn Bristol, a chyfodwyd yno gapel, a phrynwyd hen foundry yn Llundain, i'r gymdeithas oedd yn y brifddinas i ymgartrefu ynddi. Fel y lluosogai y dychweledigion, amlheid y cymdeithasau hyn, a dosparthwyd hwynt yn rhestrau dan ofal blaenoriaid. Darfu ymeangiad y gwaith greu angenrheidrwydd am drefniad pellach a manylach. Bu raid penodi swyddogion cyllidol, a sefydiu llysoedd eglwysig; adeiladu addoldai, a rhanu y maes yn gylchdeithiau; galw allan, ac yn y man ordeinio cynorthwywyr, cynal cynadleddau blynyddol, a thynu allan weithredoedd cyfreithiol; ac yn ganlynol, ffurfiwyd y cyfundeb sydd yn aros hyd heddyw. Ac wedi dechreu fel hyn ar ei waith fel efengylwr, gan ddylyn cyfarwyddyd rhagluniaeth Duw yn ei drefniadau, a chymhelliad cariad Crist yn ef brofiad, efe a ymhelaethodd mewn llafur, gan deithio, pregethu, ysgrifenu, dysgyblu, a chyfundrefnu fwy na mwy am 65 mlynedd. Bellach, ar ol rhoddi i'r darllenydd syniad am deulu a manylion gyrfa bywyd ein gwrthddrych, ni a ymdrechwn fanylu ychydig gyda'r ymgais o gyfleu rhyw drem ar helaethrwydd ei lafur, meithder a lluosogrwydd ei deithiau, yn nghyda'r amharch a'r erlidiau a ddyoddefodd fel Cristion oddiwrth gaseion crefydd a brodyr gau yn mlynyddoedd cyntaf ei oes; ac yna rhoddwn grynodeb o'i wasanaeth i lenyddiaeth fel awdwr a chyhoeddwr, hanes ei ddadleuon, teithiau, ei gymeriad, cyrchnod terfynol ei fywyd, yn nghyda chrybwyllion am ei safle, ei yni, a'i brofiad yn niwedd ei oes. Dygwyddodd dau amgylchiad yn lled fuan ar ol iddo dori allan fel efengylydd y dylid eu nodi; ac hwyrach mai doeth fyddai gwneuthur hyny yn y fan yma. Cyfeiriasom at fam rinweddol a thalentog ein gwrthddrych. Cafodd hi fyw i weled dechreuad y Diwygiad Methodistaidd, a dwfn oedd y dyddordeb a gymerai ynddo. Yn 1739, pan brynwyd ac y neillduwyd yr hen foundry yn Llundain i bwrpas crefyddol, symudwyd hi yno, i fyw yn y tŷ oedd yn gysylltiol a'r capel, a mynychai y moddion a gynelid ynddo hyd ddiwedd ei hoes. Ond dydd ei hymddatodiad hithau a nesaodd. Gorphenaf y 23ain, 1742, pan oedd ei phump merch, a'i mab John, o amgylch ei gorweddle, bu farw mewn tawelwch mawr; ac yn ol ei chais diweddaf, canasant Salm mor gynted ag yr ehedodd ei hyspryd ymaith. Y Sabbath canlynol, claddwyd ei gweddillion yn nghladdfa enwog Bunhill Fields, yn mhresenoldeb tyrfa fawr o bobl. Darllenwyd y gwasanaeth claddu gan ei mab; a phan y defnyddiodd'efe y geiriau "fy mam," yn lle y chwaer ymadawedig," torodd y dorf allan mewn wylofain mawr. Pre-