Tudalen:Bywyd a Llafur John Wesley.pdf/6

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

getbodd yn y capel ar yr achlysur i gynulleidfa yn hynod ddifrifol. Yn mhen deuddeng mis ar ol hyn, ymwelodd âg Epworth, ei hen gartref, a mynai y plwyfolion iddo bregethu. Ond gan na chaniatâi y curad yr eglwys at ei wasanaeth, gwasgai y bobl arno i bregethu ar y fynwent; ac am chwech o'r gloch un prydnawn Sabbath, efe a safodd ar feddfaen ei dad, ac a bregethodd yr efengyl gyda dylanwad mawr ar y pryd; a dylynwyd yr oedfa hono gydag effeithiau bendigedig.

Wedi planu cymdeithasau crefyddol yn Llundain, Bristol, a Kingswood, fel y prif orsafon cenhadol, efe a ymroddodd i amdeithio yr holl deyrnas, gan bregethu, ffurfio cymdeithasau, a chyfundrefnu, i ba le bynag yr elai. Pregethai ar gyfartaledd, yn ystod yr haner can' mlynedd dylynol, oddeutu ugain o weithiau yr wythnos, a theithiai yn ol pum' mil o filldiroedd yn y flwyddyn. Fel hyn, a thynu allan o'r cyfrif swm da ar gyfer ei arafwch yn mlynyddoedd diweddaf ei oes, bernir iddo bregethu oddeutu deugain mil o weithiau, theithio yn agos i chwarter miliwn o filldiroedd yn y deyrnas hon yn ystod ei lafur fel efengylwr. A dylid cadw mewn côf ddarfod iddo bregethu gynifer a hyny o weithiau dan amgylchiadau anfanteisiol yn fynych, a phan oedd ganddo lawer o bethau ereill i'w cyflawni-a theithio y cyfanswm enfawr o filldiroedd a nodwyd cyn i'r agerlong a'r ager-gerbyd gael eu dyfeisio, pryd yr oedd ffyrdd goreu y deyrnas yn anhygyrch a drwg, ac heb gymaint a stage coach yn teithio yn uwch tua'r gogledd na dinas York; ie, a darfod iddo deithio y rhan fwyaf ar gefn ei geffyl; ac y byddai y rhan amlaf, yn maint ei benderfyniad i brynu yr amser, yn darllen with farchogaeth. Un o'i deithiau cyntaf a wnaed yo 1742, i ogledd Lloegr, ar gais John Nelson a'r Arglwyddes Huntingdon, pryd y dechreuwyd yr achos yn Newcastle. Yn y flwyddyn 1743, efe a dreuliodd oddeutu pedair wythnos ar ddeg yn Llundain, deng wythnos yn Bristol, tair wythnos ar ddeg yn Newcastle, tair wythnos yn Cornwall, a deuddeng wythnos yn ngogledd Lloegr. Yr oedd yn ddyn aeddfed, oddeutu deugain oed, y pryd yma, ac yn dechreu o ddifrif ar ei lafur amdeithiol. Yn ystod y flwyddyn hono, ceir ei hanes hefyd yn ymweled â rhanau o Gymru. Gofod a ballai i'w ddylyn gyda math yn y byd o fanylwch o flwyddyn i flwyddyn, er y buasai yn angenrheidiol gwneuthur hyny cyn y gellid cyfleu syniad cyflawn i'r darllenydd am helaethrwydd ei lafur a'i deithiau; ond ceir rhyw drem arnynt pan nodir mai ei arferiad am y rhan fwyaf o'i oes ydoedd ymweled a'r holl eglwysi unwaith yn y flwyddyn, ac na byddai byth yn dychwelyd o'i deithiau heb sefydlu rhai gorsafau newyddion. Am yr un mlynedd ar bymtheg cyntaf, teithiai ei frawd Charles gryn lawer i'w gynorthwyo; ond o 1757 hyd derfyn ei oes, yn 1788, cyfyngodd efe ei wasanaeth i Bristol a Llundain. Yn 1747 y talodd John Wesley ei ymweliad cyntaf â'r Iwerddon. Croesodd yno o Bristol, a glaniodd yn Dublin. Gwnaeth hyn ar gais un o'r enw Thomas Williams, yr hwn a lwyddasai i ffurfio cymdeithas yn y ddinas oedd yn rhifo 280 o aelodau. Glaniodd yn ninas Dublin yn mis Awst, a chroesawyd ef yn nhŷ Mr. Lunell, y banker, yr hwn a gyfranodd wedi hyny £400 at adeiladu capel Whitefriar street. Treuliodd bythefnos yno, cychwynwyd achosion yn yr ynys yn ddiatreg, dechreuwyd cydnabyddiaeth ddymunol rhwng ein gwrthddrych a'r Gwyddelod. Aeth yn hoff neillduol o honynt, a chroesodd y Cyfyngfor ddwy a deugain o weithiau er eu mwyn; a phe y gosodid ei holl ymweliadau ynghyd, treuliodd dros chwe' blynedd oi fywyd prysur yn yr Iwerddon. Yn 1751, ymwelodd y waith gyntaf ag Ysgotland. Ni fwriadai bregethu yno o gwbl y tro hwnw; ond ar gais tyrfa o bobl a ymgasglent at dy y cyfaill a'i lletyai, efe a bregethodd droion iddynt, gan adael Mr. Hopper, un o'i gynorthwywyr, yno ar ei ol, a'r hwn a lafuriodd yno am bythefnos. Fel y mae yn hysbys, ni chafodd Wesleyaeth nemawr o afael yn mhlith yr Ysgotiaid o gwbl oddigerth yn Edinburgh a Glasgow, felly ni theithiodd John Wesley yn agos gymaint yno ag yn rhanau ereill y Deyrnas Gyfunol, er na pheidiodd efe ymweled âg Ysgotland drachefn a thrachefn.

Gyda maes mor eang i'w lafurio, a'r fath anghyfleusderau ac annybendod i deithio ar for a thir, a mynychder yr oedfaon a gynaliai, y mae yn anhawdd ffurfio dirnadaeth am faint ei lafur mewn blwyddyn o amser. Cymerer un er engraifft. Efe a dreuliodd ddau fis cyntaf y flwyddyn yn Llundain. Yna, ddechreu Mawrth, cychwynodd am yr Iwerddon. Marchogodd o Lundain i Gaergybi, gan bregethu dair neu bedair o weithiau bob dydd ar hyd y ffordd. Hwyrach y cedwid ef yn Nghaergybi, naill ai i ddysgwyl am long neu am hindda, am lawer o ddyddiau, pa rai a dreuliai goreu y gallai i bregethu yn y dref, ac yma a thraw yn Ynys Môn. Wedi cael cyfleusdra i groesi y mor, treuliai rai misedd i deithio, pregethu, a chyfundrefuu yn yr Iwerddon. Oddiyno cyfeiriai am Bristol, gan dreulio, hwyrach, bedair wythnos yno mewn llafur