Tudalen:Bywyd a Llafur John Wesley.pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

diball. Yna elai i lawr i Cornwall am fis, ac oddiyno trwy y siroedd deheuol yn ol i Lundain. Yna dringai i fyny trwy siroedd Bedford a Northampton a chanolbarth y wlad i sir York yn eithafoedd y gogledd, ac weithiau croesai y Tweed i Ysgotland. Yna dychwelai i Lundain erbyn y gauaf, gan wneuthur pump neu chwech o deithiau wythnosol oddiallan i'r brifddinas i wahanol gyfeiriadau. Ac fel hyn, nid oedd nemawr i eglwys, neu "gymdeithas," fel y dewisai efe ei galw, nad ymwelai â hi unwaith yn y flwyddyn o ddydd ei sefydliad hyd o fewn ychydig i ddiwedd ei oes. Yr oedd ei arolygiaeth dros yr holl waith yn bersonol a thrwyadl. Os gogwyddai yr achos yn rhywle at benrhyddid, ymrafaelion, neu farweidd—dra, cyn y gallai adfeilio llawer trwy ddiofalwch swyddogion neu ymgecraeth aelodau, galwai John Wesley heibio, gan rybuddio a dysgyblu, neu os byddai raid, diarddel yr afreolus; a thrwy y ddysgyblu aeth a weinyddai, a'r pregethau miniog a nerthol a draddodai, efe a gasglai gynulleidfa, a lluosogai yr eglwys, ac yn gyffredin adferid trefn a brawdgarwch, purdeb, a bywyd i'w plith cyn eu gadael. A diau mai i'w ymdrechion diflino i ymweled a'r eglwysi, ai lafur mawr personol yn eu mysg, y dylid priodoli cyfran helaeth o lwyddiant y cyfuneb mawr a sefydlwyd trwyddo. Ond pwy ond efe a allasai ymgynal dan y fath lafur? Eto, nid oedd ei weinidogaeth amdeithiol ond rhan o'i lafur ef.

Aeth trwy lafur dirfawr, a chyflawnodd wasanaeth amhrisiadwy fel awdwr, cyhoeddwr, a threfnydd. Yn ngoleuni dysglaer ei sêl fel efengylydd, a'i fedrusrwydd fel trefnydd, collir golwg ar ei gyrhaeddiadau a'i wasanaeth fel llenor. Fel y dengys ei nodiadau yn ei ddyddlyfr, yr oedd John Wesley yn ddarllenwr mawr. Darllenai lawer ar bron bob cangen o wybodaeth, a gwnelai hyny yn drwyadl a beirniadol. Ceir cyfeiriadau yn ei ddyddlyfr at brif weithiau Locke, Peter Browne, Bolingbroke, Reid, Leibnitz, a Butler, a'r rhan fwyaf o awdwyr goreu y cyfnod ar athroniaeth naturiol, feddyliol, a moesol, yn nghyda'r prif weithiau a geid y pryd hwnw ar athroniaeth crefydd. Darllenai lawer o farddoniaeth glasurol a diweddar. Mawr edmygai arwrgerdd Fingal gan Ossian. Ceir enw bron bob awdwr o bwys ar restr y llyfrau a ddarllenodd ar hanes yr eglwys. Rhoddodd gryn lawer o'i sylw i feddygiaeth. Ymgydnabyddodd yn helaeth a bywgraffiadau cymeriadau cyhoeddus, yn nghyda hanes teithiau ar dir a dwfr. Hoffai hynafiaethau a hanesiaeth yn fawr. Wrth gwrs, efrydiai weithiau duwinyddol, yn enwedig yr adran ddadleuol. Arferai ddarllen wrth farchogaeth, a darllenodd gannoedd o gyfrolau felly ar ei deithiau. Ac nid yn arwynebol, anghofus, a darniog y darllenai efe; ond yn ddeallus, yn drwyadl, ac i bwrpas. Yr olaf oedd ei ffordd gyda phobpeth. Cadwai ei lygad yn agored, ac edrychai lyfr drwyddo cyn ei ollwng o'i law. Ceir llawer o nodiadau beirniadol, miniog, a gwerthfawr ar lyfrau yn ei Journals.

Pan feddylir am ei deithiau, ei lafur gweinidogaethol, a chylch ei ddarllenyddiaeth, y syndod yw, pa fodd y cafodd amser i ysgrifenu dim; ac o'r tu arall, pan olygir swm ei ysgrifeniadau, y syndod yw pa fodd y cafodd amser i wneyd dim arall. Prin y gallem gredu fod y fath beth yn bosibl i unrhyw ddyn, hyd nes y deuwn i wybod am ei gyflymder a'i ddiwydrwydd. Codai am bedwar o'r gloch yn bore, treuliai ei amser ai waith yn y modd goreu, a gwnelai y goreu o ddeunaw awr allan o'r pedair ar hugain. "Leisure and I have taken leave of one another," meddai. Yr oedd ei ddiwydrwydd yn ddihafal; a rhaid ei fod yn meddwl ac yn ysgrifenu yn gyflym, fel y ceir gweled, ond ystyried byrdra yr amser a gymerai i barotoi ei lyfrau i'r wasg. Pan yn haner can' mlwydd oed, pallodd ei iechyd, a bu yn analluog i bregethu am bedwar mis—yr unig fwlch yn ei oes. Ond yn ei gystudd, pan y gwellhaodd ychydig, dechreuodd ysgrifenu ei nodiadau ar y Testament Newydd. Treuliai un awr ar bymtheg arno bob dydd; ac yn mhen deng wythnos, yr oedd yn barod ar y pedair efengyl; a rhyw— bryd yn ystod y flwyddyn ddylynol (1755), dygodd allan ei holl Esboniad ar y Testament Newydd, yn gyfrol bedwarplyg, 762 tudalen. Buasai gorchwyl fel hyn yn llawn ddigon o waith i'r cyffredin o ddynion yn nghanol iechyd a nerth; ond aeth efe drwyddo, o leiaf y rhan fwyaf o hono, yn ei waeledd a'i wendid. Ac yn ychwanegol at ei Esboniad ar y Testament, chwe' blynedd a gymerodd i dalfyru hen gyfrolau unplyg mawrion, eu hadysgrifenu oll, a'u cyhoeddi mewn ffurf gryno a destlus, dan yr enwad o "Christian Library," mewn haner cant o gyfrolau deuddegplyg. Nid ychydig oedd y gwaith o ysgrifenu yn unig yn y fath ymgymeriad, heb sôn am y gwaith meddwl a threfnu a gynwysid ynddo. Cyhoeddodd lawer iawn o lyfrau yn ei oes, rhai o honynt of awduriaeth ei hun, a'r lleill yn dalfyriadau neu yn argraffiadau newyddion waith awdwyr ereill, a ddygid allan dan ei olygiaeth, ac ar ei draul ef. Yn y flwyddyn 1774, cyhoeddodd ei waith ei hun mewn 32 o gyfrolau deuddegplyg, yn