Tudalen:Bywyd a Llafur John Wesley.pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

BYWYD A LLAFUR JOHN WESLEY. cynwys traethodau, a chant a deugain ac un o bregethau. Cyhoeddodd nodiadau ar yr Hen Destament yn dair cyfrol pedwarplyg; ei waith ar athroniaeth naturiol mewn pum' cyfrol deuddegplyg; ac yn y flwyddyn 1778, cychwynodd gyhoeddiad misol—yr Arminian Magazine—yr hwn a ddaeth allan yn rheolaidd a difwlch tra bu Wesley byw. Arno ef ei hun y disgynai y rhan fwyaf o'r llafur mewn ysgrifenu a golygu y cyhoedd— iad hwn. Ysgrifenai a chyhoeddai ei Journals o bryd i bryd, sydd yn cynwys cof— nodau manwl am waith a helyntion pob dydd yn ei ddydd, o adeg ei ymfudiad i Georgia, yn 1735, hyd fis Hydref, 1790, ychydig fisoedd cyn ei farwolaeth. Wedi eu casglu ynghyd, cyfansoddant bedair cyfrol mor ddyddorol i'w darllen a dim o'r fath sydd yn yr iaith Saesonig. Dygai ymlaen ohebiaeth gyfrinachol eang, a llafurus weithiau, ar hyd ei oes; ac ysgrifenai bob llythyr a'i law ei hun. Cymerodd ran helaeth yn nadleuon ei oes, ac ysgrifenodd lawer yn mhob modd i amddiffyn ei olyg— iadau athrawiaethol, yn ogystal a'r cwrs a gymerai mewn materion o ffurflywodraeth eglwysig. Bu mewn cryn ddadl gyda'r Morafiaid yn nechreuad ei ffordd; ac yn fuan wedi hyny, aeth yn ymwahaniad rhyngddo a'i gyfaill mynwesol Whitfield, oblegyd eu hanghytundeb mewn barn ar etholedigaeth. O'r un ffynonell, tarddodd dadleuon rhyngddo â Hervey, a Toplady, ac ereill.

Ac nid bychan oedd y gwaith oedd ganddo i amddiffyn Methodistiaeth yn ngwyneb yr ymosodiadau tanllyd a wneid arni gan glerigwyr yr Eglwys Wladol. Ac at yr oll, ysgrifenodd draethawd maith a galluog ar "Bechod Gwreiddiol," mewn gwrthwynebiad i waith Taylor, o Norwich, ar y pwngc. Gwnaeth ddefnydd mawr o'r wasg hefyd i ryfela yn erbyn pechod, anwybodaeth, a chyfeiliornadau. Efe oedd un o'r rhai cyntaf i gyhoeddi llyfrau yn rhifynau, i gyfarfod amgylchiadau y werin; a mynych y bu hefyd yn casglu arian oddiwrth y cyfoethog i bwrcasu llyfrau i'r tylawd.

Ond beth am ei fedr a'i ymroddiad fel trefnydd? Addefir ar bob llaw fod ei fedr at hyn yn ddihafal, a'i ymroddiad iddo yn ddiflino; ac y mae y cyfundeb a adawodd ar el ol yn arddangosiad o'r llwyddiant a ganlynodd. Ac nid wedi ei ymadawiad y bu yr holl lwyddiant chwaith; canys yn y flwyddyn 1790, ychydig fisoedd cyn ei farwolaeth, ceir yr ystadegau canlynol:—pregethwyr teithiol, 541; cylchdeithiau, 240; aelodau eglwysig, 134,549. Yn y flwyddyn 1744, gwysiwyd y Gynadledd gyntaf i eistedd; ond o hyny allan, cynelid hi yn flynyddol; ac am wyth mlynedd a deugain bu ef yn llywyddu yn bersonol. Yn 1739, chwanegwyd ei ofal yn fawr trwy adeiladu ysgolion Kingswood. Whitfield oedd wedi sylfaenu yr adeilad hono, ac wedi dechreu casglu at ei hadeiladu; ond Wesley a'i cwblhaodd, ac a gasglodd yr holl arian i dalu y draul, oddieithr y swm o £60. Mawr ydoedd ei gyfrifoldeb arianol ynglŷn â dyledion y capeli. Yr oedd mwyafrif o'r aelodau yn weithwyr tylodion, fel nad allent hwy eu hunain gyfranu nemawr; a chan fod cynydd y diwygiad mor gyflym, rhaid oedd codi addoldai eang ar hyd a lled y deyrnas gyda'r brys mwyaf, serch benthyca arian ar log i wneuthur hyny. Ac ato ef yr edrychai yr holl ofynwyr am y llogau a'r hawl; a bu agos i'r baich ei lethu fwy nag unwaith. Ond trwy ei fedr i lunio mesurau cyfaddas, ei ddiwydrwydd diymod i'w cario allan, a bendith Pen yr eglwys ar yr oll, llwyddodd i gyfarfod pob gofynion o'r fath yn yr adeg, ac i ddwyn ei feichiau trymion i'r lan heb dynu y gwaradwydd lleiaf arno ei hun, na pheri ceiniog o golled i neb arall. Wedi cael cymhorth gan Dduw, aeth trwy y llafur enfawr a nodwyd, ac ymgynaliodd dan ei gyfrifoldeb a'i ofal pan yn wrthddrych anhunedd yn fynych, amharch a gwrthwynebiadau, erlidigaethau a pheryglon, a phob math o anhawsderau. Prudd yw meddwl mai un o brofedigaethau chwerwaf ei fywyd oedd priod ei fynwes. Bu yn hynod o anhapus yn ei briodas. Yr oedd fel pe wedi ymddyrysu yn y mater yma. Bu ar fedr priodi fwy nag unwaith cyn cyfarfod Mrs. Vazeille, ond lluddiwyd ef trwy ymyriad annoeth cyfeillion. Gwraig weddw ydoedd hon i fasnachwr cyfoethog, gyda phedwar plentyn, a gwaddol o £10,000, ac o ddiwylliant uwchraddol; ac yn ol pob ymddangosiad ar y pryd, yn un eithaf cyfaddas i'w sefyllfa newydd. Erbyn hyn, yr oedd efe yn 48ain oed, ac wedi ffurfio arferion anghydnaws â bywyd priodasol. Cafwyd cyd—ddeall perffaith rhyngddynt cyn eu hymuniad priodasol, nad oedd y cysylltiad i leihau dim ar ei ddefnyddioldeb cyhoeddus ef, nac i ymyraeth mewn un modd drefniadau amdeithiol. Ar y cyntaf, teithiai Mrs. Wesley gyda'i gwr i'r gogledd, ac i Cornwall, &c.; ac am gyfnod byr, gellid tybied y buasai yn gymhorth ac yn gysur iddo. Cyn hir, cyfnewidiodd yn hollol, a daeth yn bob peth ond hyny iddo. Oddiar dymher afrywiog, ddilywodraeth, a drwgdybus, dangosodd pob angharedigrwydd tuag ato, a dywedodd bob drygair am dano. Cynyrchai ddrwgdeimlad