Tudalen:Bywyd a Llafur John Wesley.pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhyngddo â'i berthynasau a'i gyfeillion hyd y gallai, a chynghreiriai i'w erbyn gyda'r elynion. Drwgliwiai ei lythyrau cyfrinachol, a ffugiodd lythyrau yn ei enw ef i'r wasg, o bwrpas i'w ddarostwng yn marn y cyhoedd. Pentyrai eiriau câs ar ei deimladau yn ei adegau mwyaf anghenus am gydymdeimlad a chysur cartref; ac yn nghynddaredd dieflig ei chalon, gosododd ei dwylaw ar ei berson, gan ei daflu i lawr ai lusgo gerfydd ei hirwallt o amgylch yr ystafell; a dyoddefodd yntau yr holl gamdriniaeth fel Cristion! Bu ei enw da mewn enbydrwydd mwy nag unwaith trwy ei chreulondeb ynfyd hi; ond puredd a gaed ynddo, a gofalodd Duw Daniel am dano yntau. Wedi ei boenydio, ei ddynoethi, a'i faeddu am ugain mlynedd yn adeg prysuraf ei fywyd, hi a'i gadawodd ef; a bron na themtir ni i ysgrifenu mai dyna y caredigrwydd mwyaf a ddangosodd y ddynes anhydrin a chreulawn hon yn ei hoes. Y mae pob gwaith da yn sicr o gyfarfod â gwrthwynebiadau. "Anghenrhaid yw dyfod rhwystrau." Heblaw yr anhunedd teuluol hwn oedd mor anghysurus iddo, cyfranogodd Wesley yn lled helaeth o erlidigaethau crefyddol ei oes. Dyma oedd rhan Howell Harries a'i gyd—weithwyr yn Nghymru, a Whitfield a Wesley yn Lloegr, yn enwedig yn nechreuad eu ffordd. A phan ystyrir mor isel oedd crefydd ysprydol yn yr eglwysi gyda phob cangen, ac mor anfoesol a llygredig oedd y byd annuwiol o'r tu allan, nid oedd hyn yn rhyfedd. Gofod a ballai i roddi manylion yr erlidigaethau a ddyoddefodd ein gwrthddrych. Mynych y bu ei fywyd mewn perygl—yr archollwyd ef â cheryg—y baeddwyd ac y llusgwyd ef gan fileiniaid anwybodus a phenboeth ar hyd heolydd cyhoeddus a chafodd ei ddwyn ger bron ynadon, a'i wahardd bregethu mewn trefi yn y wlad, a'i ddifenwi gan offeiriaid ac esgobion. Nid anfynych yr arweinid y dorf a ymosodai arno gyda llwon a dyrnodiau gan ŵr urddedig, fyddai bron mor anwybodus ac annuwiol a hwythau; ac nid anaml y difyrai yswain gwledig ei hun trwy yru ei feirch a'i gŵn hela i ganol ei gyfarfodydd crefyddol, neu hwyrach mai minteioedd o weithwyr anhywaith fyddai yn cynllwyn ar ochrau y ffyrdd i osod eu dwylaw ar yr efengylwr, a'i lusgo drwy y llaid i'w daflu i'r afon. Yn 1748, mewn lle o'r enw Oakhill, ac mewn lle arall o'r enw Roughlee, cafodd efe a'i ddylynwyr driniaethau creulawn. Llogasid ysgubion y bobl i'w dderbyn i'r dref gydag wyau pydredig, a phob amharch, ac i'w arwain drwy yr heolydd gan heddwas meddw o flaen mintai arfog gyda fyn yn eu dwylaw, a diod gadarn yn eu cylla. Lluchid ei ddylynwyr â chawodydd o geryg; a flusgid rhai honynt drwy y llaid gerfydd gwallt penau, heb arbed na rhyw nac oedran; gollyngwyd cynddaredd yr erlidigaeth ar hen wyr a hen wragedd, gwyryfon gweiniaid a phlant; curid rhai â ffyn yn ddidrugaredd, a gorfodwyd un o'r dychweledigion i neidio oddiar graig uchel i'r afon! Yn Bolton, ger Manchester, ymgasglodd torf frochus, gan waeddi a chablu o amgylch y tŷ y lletyai. Taflasant gyfaill iddo a aethai allan i ymliw â hwy i'r llaid, gan ei sathru dan eu traed; torasant ddrws y tŷ, a rhuthrasant i mewn; ac y mae yn anhawdd dyfalu pa beth fuasai y canlyniad, oni buasai iddo ef eu gwynebu gyda dewrder a'u daliodd â syndod, a'u tawelu gyda'i atebion parod a'i bresenoldeb parchedig. Mewn lle arall, tarawyd ef â chareg yn ei dalcen pan yr oedd ar ganol pregethu; ond gyda nerth goruwchddynol, ar ol sychu y gwaed o'i lygaid, aeth yn mlaen gyda'i bregeth. Yn Wednesbury, amgylchwyd ei lety gan y terfysglu a waeddent, "Dewch â'r pregethwr allan: rhaid i ni gael y pregethwr allan!" A rhag iddynt losgi neu ddinystrio ty ei gymwynaswr, aeth allan atynt, fel cen i ganol bleiddiaid; ac och! y driniaeth a gafodd! Llusgwyd ef yn amharchus am filldir ffordd trwy wlaw trwm, ar noson dywyll, at dy yr ynad heddwch. Ar y ffordd, yr oedd terfysglu Walsall yn ymosod ar derfysglu Darlaston; ac aethan ymladd am dano fel bwystflod rheibus am ysglyfaeth, a chariwyd ef i ddwylaw yr ymosodwyr newyddion hyn. "Ofer," meddai, "oedd ceisio siarad â hwynt, canys yr oedd y sŵn ar bob llaw fel rhuad y môr." Llusgasant ef yn ol i'r dref; a phan amcanodd ddiangc oddi arnynt trwy droi i mewn i ddrws tŷ mawr a pharchus oedd yn agored ar fin yr heol, daliwyd ef gan ryw ddyhiryn wrth wallt ei ben, gan ei lusgo yn ol i'w dwylaw. Ar hyn, tarawyd ef yn ei enau nes y ffrydiodd y gwaed allan, a chariwyd ef dros bont, gerllaw afon ddofn, gan ofni bob munud gael ei daflu iddi a'i foddi: ond cyfryngwyd ar ei ran, a diangodd yn fyw o'r enbydrwydd yno, fel pob un arall cyffelyb cyn ac ar ol hyny! A dywedir fod ei hunanfeddiant, ei ddewrder diymollwng, ai yspryd maddeugar ac efengylaidd, yn nodedig yn ngwyneb y triniaethau creulawn hyn oll. Gwelwyd hyfdra annuwiol ymosodwyr yn gwywo dan awch ei eiriau parod a chyfeiriadol, ac nid unwaith y diffrwythwyd eu dwylaw gan ei hunanfeddiant a'i ddewrder. Bu yn cerdded trwy ganol terfysglu brochus, gan ddangos y fath wroldeb fel na feiddiai