PEN. X.
Hanes gwneuthuriad "Gweithred Gyfansoddawl" ("Constitutional Deed") y Trefnyddion Calfinaidd—Pigion o lythyrau Mr. Richard at ei feibion—Llythyr at y Parch. Mr. Howells, Trehil—Un arall at y Parch. John Elias ar farwolaeth ei wraig—Llythyr oddiwrth y Parch. Richard Jones, Wern.
Yn y flwyddyn 1826, ar ol ystyried hir a dwys, penderfynodd y Trefnyddion Calfinaidd ddefnyddio moddion i ddiogelu y meddiannau oedd yn perthyn iddynt fel corph crefyddol, trwy fynu gweithred gyfreithlon wedi ei pharotoi, yn ol y drefn ofynol gan ddeddfau'r wladwriaeth. I'r dyben hyn, ymofynwyd cyngor a gwasanaeth John Wilks, Ysw., o Lundain, yr hwn ydoedd cyn hyn wedi enwogi ei hun yn fawr, trwy ei zel yn amddiffyn hawliau yr Ymneillduwyr (Dissenters) yn gyffredinol.
Yr oedd yr angenrheidrwydd am hyn wedi dyfod yn amlwg trwy amryw brofion gofidus, yn mha rai, o ddiffyg y cyfryw ddiogeliad, yr oedd dynion beilchion, hunanol, a diegwyddor, wedi cymeryd mantais i briodoli, fel meddiant personol iddynt eu hunain, rai o'r addoldai a adeiladwyd er defnydd y corph. Wedi i'r weithred gael ei chwblhau, yr oedd yn angenrheidiol cael wrthi arwyddnodau holl Ymddiriedolwyr yr Ammod-weithredoedd (Trustees of Leases) perthynol i wahanol addoldai y corph trwy y wlad; ac i gyflawni yr amcan hwn, pennodwyd y Parch. John Elias i fyned drwy y Gogledd, a gwrthddrych y cofiant hwn i fyned