Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lawn, yn berffaith, ac yn dragywyddol. Hyd yr eithaf. O fy anwyl blentyn, pwy a all fesur yr eithaf gogoneddus hwn? Pwy? Nid oes neb a all ei chwilio allan! Eithaf Duw ydyw. Nid oes na dyn nac angel a eill ei blymio byth! O uwchder, a dyfnder, a hyd, a lled, y gwirionedd goruchel hwn, &c.

Wyf, fy machgen anwyl,

Eich tad,

EBENEZER RICHARD.


Yn y flwyddyn hon ysgrifenodd y llythyr canlynol at y Parch. Mr. Howells o Drehil, mewn atebiad i un anfonodd efe at y Gymdeithasiad yn Llangeitho. Y mae yn ddrwg genym ein bod wedi methu llwyddo i ddyfod o hyd i lythyr Mr. Howells ei hun.

AT Y PARCH. MR. HOWELLS, TREHIL.

Tregaron, Medi 3ydd, 1827.

BARCHEDIG FRAWD, A THAD YN YR EFENGYL,
Eich llythyr gwerthfawr a melus at Gymdeithasiad Llangeitho, yr hwn a ddyddiwyd Gorphenaf 20fed, a ddaeth yn brydlawn i fy llaw, ac a ddarllenwyd genyf fi i glywedigaeth yn nghylch tri chant o bregethwyr a blaenoriaid o Ogledd a Deheudir Cymru, yn gynnulledig yn y gymdeithas am un o'r gloch yr 8fed dydd. Anwyl Syr, y mae yn gwbl anmhosibl i mi fynegu i chwi deimladau y corph wrth wrando ei ddarllen -gwrandawyd ef gyda llawer o ddagrau a llawenydd, a chyda theimladau dwfn o orfoledd a hiraeth:—gorfoledd wrth weled un o'r brodyr hynaf yn y corph yn byw yn nghymmydogaeth y nef; gorfoledd wrth ddeall ei fod yn cael ffrwythau gwlad yr addewid ar drosolion i'r ardal lle mae'n byw; gorfoledd wrth