cyflym yn ehedeg yn nghanol y nefoedd, a'r efengyl dragywyddol ganddo i efengylu i'r rhai sydd yn preswylio ar y ddaear. Pregethodd yma prydnawn Sadwrn diweddaf oddiwrth Luc ix. 61, a boreu Sabbath yn Llangeitho, oddiwrth Diar. xxii. 17-21. Yr oedd y gynnulleidfa yn fawr anarferol yn Llangeitho, a'r addoldy, er ei fod yn llawn, nis gallai gynnwys yn agos y dorf luosog: yr oedd llawer wedi dyfod o bellder mawr, ac yr wy'n credu na chafodd neb eu siomi. ***** Fy mechgyn anwyl, erbyn yr amser y derbynioch y llythyr hwn, bydd blwyddyn arall wedi myned heibio, ac fel hyn treuliwn ein blynyddau fel chwedl,' ac yr ydym yn prysuro i'n cartref tragywyddol.
Y mae tragywyddoldeb yn crogi ar funud; ac O'r fath bwys i grogi ar edefyn mor wan! Nid yw y byd ansefydlog presennol ond lle pererindod-tragywyddoldeb yw ein cartref ni. Yn y byd hwn amser hau yw arnom-tragywyddoldeb fydd y cynhauaf i fedi am byth o'r hyn a hauasom yma. O edrychwn at ein llestr had, fel y gwybyddom pa beth yr ydym yn ei hau. Cedwch yn agos at orsedd gras, at foddion ac ordinhadau gras, 'a Duw pob gras, yr hwn a'n galwodd ni i'w dragywyddol ogoniant, trwy Grist Iesu, a'ch perffeithio chwi, a'ch cadarnhao, a'ch cryfhao, a'ch sefydlo. Iddo ef y byddo'r gogoniant a'r gallu yn oes oesoedd. Amen.'"
Da, ond odid, fydd gan lawer weled y llythyr canlynol a dderbyniodd Mr. Richard, yn ystod y flwyddyn hon, oddiwrth y diweddar barchedig Richard Jones o'r Wern.