Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/124

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mai tanllwyth o ddadleuaeth yw; eithr yr wyf fi yn meddwl nade; o'r hyn lleiaf, yr wyf wedi ei fwriadu i'r gwrthwyneb.

Yn y drych hwn, debygaf, y gall y darllenydd diragfarn weled pa mor agos y mae'r golygiadau uchod yn dyfod i'r gwirionedd, ac ar yr un pryd yn arwain y darllenydd i eithafion a dychymygion anorphenol. Mae'n cynnwys natur dadl, ei da a'i drwg, ei hachlysuron, cyndynrwydd mewn dadl, profion o waith amryw, y niweid o wyrdroi'r Ysgrythyrau, anghysondeb golygiadau Usher ar wir helaethrwydd marwolaeth Crist yn yr iaith y'i ysgrifenwyd, cyfieithad o'r cyfryw, golygiadau Mr. R. yn gyferbyniol, sylwadau arnynt, prynedigaeth, rhybudd i bregethwyr ac ysgrifenwyr, sylwad ar y geiriau neillduol a chyffredinol. Ond tebyg, er fy mod yn ymdrechu i ymgadw o dir dadl, na bydd yn achos o'i gohirio, eto, efallai y bydd i ryw beth sydd ynddo beri i ddynion gwyntog glecian. Ond yr wyf yn gobeithio er hyny y gall fod yn foddion i'r darllenydd diduedd i weled mor ddibwys, o'r hyn lleiaf o ran cu dechreuad, yw llawer o bethau ag sydd yn peri cynhyrfiadau ynfyd yn y byd crefyddol.

Ond gwybydder, nid wyf yn gofyn eich llythyrau canmoliaeth i'r gwaith, nac uchel-udganiad o'r eiddoch o'u blaen, (rhag y byddo i neb oherwydd hyny gael achlysur o'm rhan i, i gablu corph nac enaid,) ond gadael iddo pob chwareu teg, ac na byddo i neb o fy mrodyr, pwy bynag trwy wyneb, genau, nac ael, fod yn blaid i ragfarn na chenfigen, rhag ofn iddynt fod yn achlysur o friw i feddwl neu feddiannau un ag sydd yn caru eu lleshad, ac yn sicr ei fod yn amcanu at ddaioni. Bydd i'r gwaith ddyfod allan yn rhanau. Y