Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/139

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Duw yw, nas gall ef ddim wadu ei hun, a'n coron benaf ninau yw medru ymwadu a ni ein hunain; heb hyn nis gallwn ddilyn Crist, canys efe a ddywedodd, Os myn neb ddyfod ar fy ol i, ymwaded ag ef ei hun, cyfoded ei grocs, a chanlyned fi.' Gras rhagorol yw hunanymwadiad a gostyngeiddrwydd; mae yn rhoddi hawl i'r addewid Y mae Duw yn rhoddi gras i'r rhai gostyngedig.' Ni ellir bod yn gadwedig heb y gras hwn. Oddieithr eich troi a'ch gwneuthur fel plant bychain, nid ewch chwi ddim i mewn i deyrnas nefoedd.' Y mae genym siampl ein Iachawdwr i gyrchu ati yma, oblegid efe a ddywedodd, Dysgwch genyf fi, canys addfwyn ydwyf, a gostyngedig o galon.'

4. Ni a ddylem ystyried ein hunain: 'Gan dy ystyried dy hun,' medd Paul, rhag dy demtio dithau;' Yr hwn sydd yn tybied ei fod yn sefyll, edryched na syrthio;' Canys mewn llawer o bethau yr ydym ni bawb yn llithro;' ystyriwn mor wan, a ffol, ac agored i demtasiynau yr ydym. Beth os darfu i ti sefyll pan syrthiodd dy frawd, fe allai mac yr awel nesaf a'th chwyth dithau i lawr: ystyria dy hun.

3ydd. Ein dyledswydd tuag at ein gilydd. 'Oblegid ninau, a ni yn llawer, ydym un corph yn Nghrist, a phob un yn aelodau i'w gilydd; canys fel y mac corph yn un, ac iddo aelodau lawer, a holl aelodau yr un corph cyd byddont lawer ydynt un corph, felly y mae Crist hefyd;' h. y. felly y mae eglwys Crist hefyd. Ni ddylai bod anghydfod yn y corph, eithr bod i'r aelodau ofalu yr un peth dros eu gilydd; gan hyny, frodyr, yr ydym yn 1. I garu ein gilydd: Hyn,' medd Crist, yr wyf yn ei orchymyn i chwi, garu o honoch eich gilydd;' ac yr oedd gan y Colossiaid nid yn unig ffydd yn Nghrist Iesu, ond cariad tuag at yr