holl saint; a bydded eich cariad tuag at eich gilydd yn helaeth, yn gywir, yn gyson, yn gynnyddol, ac yn barhaus, Parhaed brawdgarwch.'
2. Gweddio dros ein gilydd cyffeswch eich camweddau bawb i'ch gilydd, a gweddiwch dros eich gilydd. 3. Dygwch feichiau eich gilydd, ac felly cyflawnwch gyfraith Crist.
4. Cyngorwch eich gilydd bob dydd tra y gelwir hi heddyw, fel na chaleder neb o honoch trwy dwyll pechod; Ac annog bawb eich gilydd, a hyny yn fwy o gymaint a'ch bod yn gweled y dydd yn neshau:' gochelwch ymchwyddo yn erbyn eich gilydd, na rwgnechwch yn erbyn eich gilydd, frodyr.
Yn bresennol, frodyr a chwiorydd anwyl, nis gallaf helaethu y mae fy mhapur a'm hamser yn pallu; gan hyny byddaf tan rwymau i dewi. Ystyriwch yr hyn a ysgrifenais, a'r Arglwydd a roddo i chwi ddeall yn mhob peth.
Nid ydwyf yn anfon i chwi ddim o fy hanes, gan fod hyny yn cael ei anfon yn wythnosol at fy anwyl deulu. Y mae Edward yn cyduno â mi mewn serchocaf gariad atoch chwi oll, ac yr ydym yn hyderus eich bod yn ddibaid yn ein cofio ni ein dau yn y lle pell hwn.
Ydwyf, fy mrodyr anwyl a hoff,
Yr eiddoch yn Nghrist,
EBENEZER RICHARD
AT EGLWYS CRIST YN CYFARFOD YN CAPEL GWYNFIL, LLANGEITHO.
FY ANWYL GYFEILLION YN YR EFENGYL,
Mae yn gof genyf y prydnawn hwn, ddarfod i mi addaw, cyn ymadael o'r wlad, ysgrifenu llythyr atoch yn amser fy ymdaith yn y ddinas fawr hon; ac