Yn fuan ar ol ei ddychweliad, derbyniodd lythyr oddiwrth ei fab ieuangaf, (yr hwn oedd y pryd hwnw yn cyfanneddu yn Aberystwyth,) yn hysbysu tueddiad ag ydoedd wedi bod yn ddirgel-goleddu am hir amser, i gyflwyno ei hun i waith y weinidogaeth. Gan ei fod yn gwybod yn dda y dychryn oedd yn meddwl ei dad rhag dangos unrhyw gefnogiad i'w blant i ystyried y weinidogaeth fel rhyw etifeddiaeth fydol, i'w derbyn oddiwrtho ef, nid heb lawer o gryndod y beiddiodd ysgrifenu ato ar yr achos. Ond deallodd yn fuan fod rhyw ddysgwyliadau o'r fath wedi eu ffurfio er ys talm yn meddyliau ei rieni, (er eu bod, oherwydd y petrusder a deimlent ar y pwnc, wedi celu hyny yn ofalus oddiwrtho ef;) a phan ddatguddiodd ef y peth yn wirfoddol ei hun, cafodd achos yn fuan i benderfynu fod ei dad yn llawenychu (eithr yn llawenychu yn wir gyda dychryn) yn y gobaith o weled un o'i blant yn cyflwyno ei hun i'r gorchwyl goruchel i ba un yr oedd efe ei hun wedi cyssegru ei fywyd.
FY ANWYL HENRY,
Derbyniais eich llythyr a ddyddiwyd y 24ain, a darllenais ef yn ddioed gyda'r pryder mwyaf, a phwysais yr hyn a gynnwys gyda'r holl ofal, difrifoldeb, a sobrwydd a feddwn i, a chyda llawer o ymdrech wrth orsedd gras, am gyfarwyddyd, arweiniad, a chyngor, yn yr achos pwysfawr hwn. Pan yn myfyrio ar y pwnc, tarawodd geiriau yr apostol Pedr fy meddwl yn nerthol iawn, y rhai a lefarodd efe yn ei ddiffyniad am fyned i dŷ Cornelius, at rai dienwaededig,— Pwy oeddwn i, i allu lluddias Duw?' ac felly, pwy ydwyf finau, i amcanu lluddias Duw yn yr achos hwn? Na ato Duw i