win, a bwrdd yn llawn o foreu-ddydd hyd brydnawn. Yn awr y mae yn wahanol iawn; mae'r dyfroedd wedi dyfod i fro'r dwyrain, a disgyn i'r gwastad, ac y mae yn myned i'r môr, a'r dyfroedd a iacheir; mae bro a bryniau Morganwg yn ymlusgo ato, ac y mae lle i obeithio fod llawer yn cael iachad; mae swn caniadau ymwared a diolchgarwch trwy ein hardaloedd.
Ond bellach, rhaid i mi eich gadael, a deisyf arnoch fy nghofio ger bron yr orsedd fawr, (y gwaelaf o bawb o honoch,) yr unig fan y mae fy enaid tlawd yn cael achos i ganu yn llawen weithiau; cofiwch chwithau fi yn eich gweddiau, hen bechadur tlawd sy'n wynebu glyn cysgod angeu. Er hyny, os bydd y gwr biau'r wialen a'r ffon gyda mi, nid ofnaf niweid-fe ddichon daro'r afon â'r wialen, a chynnal â'r ffon, nes landio mewn i'r wlad lle na bydd achos ofni mwy.
Deuwch yn hyderus atom, frodyr, mae'r graig yn dechreu rhwygo, a lle i feddwl fod rhai meini yn cael eu codi allan o honi, er fy mod i a'm mrodyr wedi ei churo dros yn agos i driugain mlynedd; ond yn awr, mae llu mawr yn sefyll yn nghanol y dyffryn, nes wy'n gorfod gwaeddi, O anadl, tyred, fel y byddo byw yr esgyrn hyn.' Deuwch, frodyr, yn hyderus ac yn arfog; codwch eich banerau i fynu yn enw'r Gwr goncwerodd angeu: ceir gwisgo'r goron yn ddiamau wedi gorchfygu rhwysg a grym y cewri, a'r holl Anaciaid wedi eu diddymu.
Yn awr yr wyf yn eich gadael, frodyr anwyl, gan ddymuno eich llwyddiant â'm holl galon; er fy mod yn ffailu bod yn eich mysg, mae fy meddwl tlawd gyda chwi yn aml ac yn fynych wrth gofio y pleser a gefais yn eich plith, a chofio Llangeitho—y gwleddoedd ge's yno wrth glywed cyhoeddi fod yr hen