pethau mwyaf anhebgorol i happusrwydd priodasol; ac os mynwch wybod pa fodd i fod yn wr da, y mae genych hen lyfr yn eich meddiant a ddengys i chwi mewn modd anffaeledig pa fodd i fod y cyfryw un.
III. Eich bwriad i gynnyg eich hunan i'r weinidogaeth. Dyma'r mwyaf pwysig eto. Bod yn weinidog ydyw bod yn 'was i'r Duw goruchaf, yn dangos i ddynion ffordd iachawdwriaeth.' Yr hwn a'n gwnaeth ni yn weinidogion cymhwys y Testament Newydd.' Sylwch, o'r holl rai a wnawd ac a wneir gan ddynion, ni wnaed un cymhwys erioed ond gan Dduw; a rhaid i weinidog, cyn y byddo cymhwys, fod yn
1. Yn Gristion gwirioneddol ei hunan, wedi ei ail-eni, ei eni oddi uchod, o'r Ysbryd, yn greadur newydd.
2. Rhaid fod ganddo gynnysgaeth o wybodaeth, profiad, a doniau, Matt. xiii. 52.
3. Rhaid ei fod wedi ei alw gan Grist trwy ei Ysbryd at y gwaith hwn, Act. xxvi. 18.
4. Rhaid fod ei ddyben yn gywir, syml, a diduedd o flaen Chwiliwr y Galon, 2 Cor. xii. 14.
5. Rhaid fod ei feddwl tan argraff am natur, helaethrwydd, a phwysfawrogrwydd y gwaith, Ezec. iii. 17, &c.
6. Rhaid ei fod o ysbryd addas, heb wneuthur gwaith yr Arglwydd yn dwyllodrus.
7. Rhaid ei fod yn 'weithiwr difefl,' yn medru iawn-gyfranu gair y gwirionedd.
8. Rhaid ei fod yn dyst cyflym, cadarn tros Grist, yn erbyn pob llygredigaeth.
9. Rhaid iddo bwyso yn wastadol a beunyddiol ar Grist am bob nerth angenrheidiol.
Yn awr mi debygaf eich bod yn llefain allan, fel y