Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/165

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

heddyw yn weddw, a'm plant bach yn amddifaid! Gwir, chwaer, ond y mae genych hawl yn awr i addewidion dwyfol nad oedd dim a wnelych â hwy o'r blaen. A gaf fi genych chwi sylwi ar yr Ysgrythyrau canlynol, Exod. xxii. 22-24. Na chystuddiwch un weddw nac ymddifad. Os cystuddiwch hwynt mewn un modd, a gwaeddi o honynt ddim arnaf, mi a lwyr wrandawaf eu gwaedd hwynt. A'm digofaint a ennyn, a mi a'ch lladdaf â'r cleddyf; a bydd eich gwragedd yn weddwon a'ch plant yn amddifaid.' Deut. x. 18, Yr hwn a farna yr ymddifad a'r weddw, ac y sydd yn hoffi y dyeithr, gan roddi iddo fwyd a dillad.' Pen. xxiv. 19, 21, Pan ysgydwech dy olewydden, na loffa ar dy ol: bydded i'r dyeithr, i'r ymddifad, ac i'r weddw. Pan fedech dy gynhauaf yn dy faes, ac anghofio ysgub yn y maes, na ddychwel i'w chymeryd: bydded i'r dyeithr, i'r ymddifad, ac i'r weddw, fel y bendithio'r Arglwydd dy Dduw di yn holl waith dy ddwylaw.' Pen. xvii. 19, Melldigedig yw yr hwn a wyro farn y dyeithr, yr ymddifad, a'r weddw; a dyweded yr holl bobl, Amen.' Salm cxlvi. 9, Yr Arglwydd sydd yn cadw y dyeithriaid efe a gynnal yr ymddifad a'r weddw, ag a ddadymchwel ffordd y rhai annuwiol.' Jer. xlix. 11, Gâd dy ymddifaid, myfi a'u cadwaf hwynt yn fyw; ac ymddirieded dy weddwon ynof fi.' Salm lxviii. 5, Tad yr ymddifaid a barnwr y gweddwon yw Duw yn ei breswylfa sanctaidd.'

Gwraig weddw borthodd Elias. Gwraig weddw a ddododd y ddwy hatling yn y drysorfa, ac a wnaeth gymaint o son am dani hyd y dydd hwn. Gwraig weddw oedd Anna y brophwydes, Luc ii. 37. Gwraig weddw a lwyddodd gyda y barnwr anghyfiawn. Ac mae Paul yn gorchymyn anrhydeddu y gweddwon,