Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/167

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

AT MR. WILLIAM MORRIS, COED-Y-CYMMER.

Tregaron, Hyd. 12, 1830.

GYFAILL CAREDIG,

Eich llythyr, yr hwn a ddyddiwyd y 22ain o'r mis diweddaf, a ddaeth i law y boreu heddyw, ac wele i chwi ateb o'r fath ag ydyw o fewn corph yr un dydd. Mewn atebiad i eich hymofyniad am faterion i fod tan sylw yn eich Cyfarfodydd Deufisol, rhaid i mi ddywedyd, yn ngeiriau Pedr, Yr hyn sydd genyf, hyny yr wyf yn ei roddi i ti;' ac efallai nas bydd yn llwyr anfuddiol, ar ol y pethau a enwyd genych chwi, sylwi ar y pethau a ganlyn, sef, yn 1af. Ar briodol sain yr egwyddor Gymraeg, h. y. bod rhyw un athraw o bob ysgol i fyned trwy yr egwyddor yn ol y dull y byddir yn ei dysgu yn eu hysgol hwy, yna cewch weled pwy sydd gywir a phwy sydd anghywir, a chyfodi seiniad unffurf yn yr holl ysgolion. 2il. Am sillebu. 3ydd. Am ddarllen wrth y nodau a'r attaliadau, y pwyslais, a'r pethau priodol i ddarllen hyrwydd. 4ydd. Am ymadroddion cyffelybiaethol a throellawg yr Ysgrythyrau, megis trawsenwad, cyforddwyn, gormoddiaeth, gwawdiaith, trawsymddwyn, &c.; h. y. amcanu rhoddi i'ch gilydd ryw ychydig o insight, neu olwg i mewn, i'r troellau, ond nid myned i lawer o fanylrwydd na meithder chwaith, rhag ofn dadleuon anfuddiol. Ar ol gorphen y pethau uchod, cewch yn 5ed. Y gorchwyl mawr ag sydd wedi cymeryd i fynu y pum mlynedd diweddaf o ein hamser yn y sir hon, hyny ydyw, sylwi ar lyfrau yr Ysgrythyr Lan bob un o'r bron, gan ddechreu ar Genesis, sef, fod athrawon pob ysgol i sylwi (er siampl) ar Genesis, 1. Arwyddocad yr enw Genesis. 2. Pwy oedd yr awdwr. 3. Dros ba faint o