Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/172

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Arglwydd ar ei ymdrechiadau, dygwyd fi oddeutu unwaith eto, ac adferwyd fi yn rhyfeddol o'r teimladau trymaidd ac anghysurus â pha rai i'm gorthrymwyd am flynyddau. Bydded i'r Arglwydd fendithio fy machgen anwyl am ei ddyfalwch a'i garedigrwydd yn fy afiechyd a'm poen, a molianner enw'r Arglwydd am weinyddu bendith ar y moddion a ddefnyddiwyd. Yr wyf yn awr (meddai efe mewn llythyr at ei fab arall) yn gallu myned yn fy nghylch oddeutu Tregaron i bregethu a chynnal Cyfarfodydd Eglwysig, a gallaf fi ddywedyd gyda mwy o wirionedd na Samson gynt, Af allan y waith hon fel cynt, ac ymysgydwaf.'

Y mae yn ddyledus arnom nodi yma fod ei ysbryd trwy y clefyd hwn mewn tymher hynod nefolaidd, a synai ei gyfeillion mor dawel y llwyr-ymroddai i ewyllys yr Arglwydd. Wrth ymweled âg ef, gofynent iddo pa fodd yr ydoedd yn ymdeimlo yn ngwyneb yr amgylchiad yr oedd ynddo, adroddai yntau yn barhaus y geiriau hyny, Os caf fi ffafr yn ngolwg yr Arglwydd, efe a'm dwg i eilwaith, ac a bar i mi ei gweled hi a'i babell. Ond os fel hyn y dywed efe, Nid wyf foddlon it'; wele fi, gwnaed i mi fel y byddo da yn ei olwg, 2 Sam. xv. 25, 26.

Yn ystod y clefyd hwn, derbyniodd y llythyr canlynol oddiwrth ei gyfaill anwyl, y Parch. Thomas Evans, Caerfyrddin.

AT Y PARCH. EBENEZER RICHARD.

Caerfyrddin, Hydref 26, 1832.

BARCHEDIG AC ANWYL SYR,

Mae yr ychydig o'n cyfeillion yn y lle hwn (pa rai a gafodd y newydd) yn drallodus iawn oblegid iddynt