Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/173

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

glywed eich bod chwi yn glaf, ond nid oes genym sicrwydd hyd yn bresennol pa faint o wirionedd sydd yn hyny; gobeithiwn nad oes nemawr, os dim; ond os oes rhyw ychydig o anhwyl, hyderwn a gweddiwn na fyddo o faith barhad.

Hysbyswyd eich addewid am ddyfod atom ddydd Nadolig nesaf i'r ysgol dydd Sabbath wythnos i'r diweddaf, a pharodd y newydd iddynt agos lamu o lawenydd. Mae gan y plant bach bennod neu ddwy o'r Rhodd Mam' yn barod erbyn eich dyfodiad, ac mae ganddynt hefyd dônau newyddion i'w canu, o'r rhai mwyaf peraidd a bywiog a glywsoch â'ch clustiau, a gwyddom y bydd yn anhawdd i chwi beidio wylo wrth eu gwrando. Mae yr holl ysgol hefyd yn llafurus.

Gair yn ol gyda'r dygiedydd, os na chewch gyfleusdra buanach, am ansawdd eich iechyd, yn nghyd a sicrhad o'ch addewid am ddyfod atom ar y dydd a nodwyd uchod, a'n mawr foddlona. Mae ein cyfeillion sydd wedi clywed am eich cystudd, (ni hysbyswyd ond i ychydig, gan ein bod yn gobeithio nad yw yr hanes yn gywir,) yn dymuno cu cofio atoch chwi yn bersonol, yn nghyd ag at eich teulu hawddgar, yn y modd mwyaf serchog a charedig, dros ba rai, ac fel un o honynt, yr ydwyf yn ysgrifenu, ac yn aros gyda dyledus barch, eich annheilwng a'ch egwan gyfaill,

THOMAS EVANS.

Yn fuan wedi adferiad Mr. Richard o'r afiechyd rhag-grybwylledig, dychwelodd ei fab hynaf i'r brifddinas i orphen ei ddysgeidiaeth fel meddyg. Y mae y llythyr canlynol ato ef yn esbonio ei hun.