kins, o Lanbedr; ar ba achos yr ysgrifenodd y llythyr canlynol at ei deulu. AT MR. A MRS. JONES, LLANBEDR.
FY NGHYFEILLION CARIADUS,
Yr oeddwn wedi llwyr fwriadu ysgrifenu atoch cyn ymadael a'r lle hwn, ond pan dderbyniais fy llythyr diweddaf oddicartref, a chael y newydd trwm ynddo am farwolaeth eich hanwyl a'ch hanrhydeddus dad[1], penderfynais nad oedwn ddim yn hwy.
Gallaf ddywedyd yn ddiweniaith fy mod yn teimlo gyda chwi oll, yn enwedigol eich hanwyl fam, ïe, collodd, do, gydmar ffyddlawn ei bywyd; y mae yn rhaid ei bod yn teimlo yn unig, ac yn anghysurus, ac athrist ar ei ol gellir dweud am danynt hwy ill dau, ‘Mai cariadus ac anwyl oeddynt yn eu bywyd,' ond yn eu marwolaeth gwahanwyd hwynt. Gwelsant lawer gauaf garw a llawer haf teg, cyd-ddringasant i ben llawer bryn, a disgynasant i lawer pant dwfn; buant am hir oes yn cyd-gario beichiau, yn cyd-fwynhau breintiau, ac yn cyd-ddefnyddio trugareddau; o'r diwedd tynwyd un yn rhydd o'r iau, a gadawyd y llall tani, Yna y bydd dau yn y maes; y naill a gymerir a'r llall a adewir.' Yr ydwyf yn teimlo drosoch chwithau eich dau, yn enwedig Mrs. Jones: collasoch dad tirion a gofalus, a'ch mawr hoffodd chwi, ac a fawr hoffwyd genych chwi. Ymaflodd yn eich llaw mewn plentyneidd-dra i'ch harwain, gwyliodd drosoch yn eich ieuenctyd, a bu yn gefn ac yn blaid i chwi hyd ddiwedd ei oes. Maddeuafi chwi am wylo peth, oblegid mae
- ↑ Mr. David Jenkins, Llanbedr.