Cymdeithasiad Chwarterol yn y lle hwnw. Cyrhaeddodd eich ewythr a minau yno y prydnawn o'r blaen, a phennodwyd ni i bregethu yn nghyd y noswaith hono, ac felly llefarodd eich ewythr ychydig yn mlaenaf, a minau yn ganlynol, fel yr ydoedd weddus, gan mae myfi ydyw'r hynaf. Yna, ar ol enwi y gwahanol weinidogion a fuont yn ymddangos yn gyhoeddus, sylwa, Yr oedd yr hin yn ddymunol iawn, a'r Arglwydd yn dda, ond eto nid oedd dim symud yn mysg yr esgyrn sychion. O Arglwydd, pa hyd! Y mae yr hanesion a dderbyniasom am y Cyfarfodydd Blynyddol yn Mai, yn wir ryfeddol. Yr wyf yn bendithio ac yn clodfori Duw am yr ysbryd rhagorol oedd yn treiddio-trwyddynt. Yr oedd cynhwrf zel-bleidgarwch wedi ennill y fath oruchafiaeth dros nifer fawr o'n cyd-ddeiliaid yn y wlad, fel yr oedd pob peth pwysig a difrifol bron wedi cael eu halltudio o feddyliau a geiriau y rhan fwyaf o honynt. Rhyw dwymyn foesol boeth iawn ydoedd, ac yr oedd llawer o honynt yn ymddangos yn agos yn orphwyllog. Bydded i'r nefoedd ostwng a llonyddu rhyw raddau ar y clefyd dychrynllyd hwn.
Y mae ein cyfaill parchedig Mr. Evans, gynt o New Inn, wedi dymuno arnaf ei gofio yn garedig atoch eich dau, ond y mae yn ddrwg iawn genyf orfod dweud, fy mod wedi clywed yn ddiweddar fod ei hen anhwyldeb wedi gwneuthur ymosodiad tra llym arno drachefn; bydded i'r Arglwydd ei adferyd yn fuan, oblegid yr ydym yn teimlo ei absennoldeb yn fawr iawn, efe yw ein Daniel, wr anwyl.' Mewn perthynas i'ch cais diweddaf chwi, am ran yn fy ngweddiau i, na ato Duw i mi beidio a gweddio drosoch bob dydd a nos, boreu a hwyr. Gallaf sicrhau i chwi fod y rhan amlaf o'r gweinidogion sydd yn lletya yn ein bwthyn