Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/196

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y lle cyntaf i ddychwelyd mawl a diolchgarwch i Dduw am y fath daith hwylus i'r brif-ddinas, a'r agwedd gysurus a gefais ar fy mherthynasau ac ar yr eglwys a'r achos yn y lle pan ddaethum, yr iechyd ac amlder y daioni eraill y mae fy anwyl wraig a minau wedi ac yn fwynhau. 'O na foliannem yr Arglwydd am ei ddaioni a'i ryfeddodau i ni y gwaelaf o feibion dynion.' Y mae dau beth wedi bod, ac yn parhau i fod, yn agos iawn at fy meddyliau y dyddiau hyn, sef y pethau sydd yn ymddangos i mi yn rhagoriaethau gweddiau ac yn rhagoriaethau pregethau. 1. Rhagoriaethau gweddiau, sef eu bod yn llawnach o lawer mewn diolchgarwch gwarth ein gweddiau yw eu bod mor wag o ddiolchgarwch. Rhaid i mi addef fy mod wedi bod yn dra rhagfarnllyd at weddiau a llawer o ddiolch ynddynt, gan feddwl mae Phariseaid oedd y rhai a ddywedent yn aml, Yr wyf yn diolch i ti,' &c.; ond gwelaf yn awr mae balchder fy nghalon ffol oedd un achos o hyn, a diffyg sylwi ar yr Ysgrythyrau ydoedd achos arall, oblegid pe edrychaswn ar y pethau a ganiateid i mi, nis gallaswn weled dim ond achos diolch, oblegid pa beth sydd genyf ar nas derbyniais? ac os derbyniais, paham yr ydwyf yn gorfoleddu megis pe bawn heb dderbyn?' Hefyd, pan edrychwyf i'r Ysgrythyrau, iaith y rhai hyny ydyw yr un a ganlyn, Yn mhob dim diolchwch. Gan ddiolch yn wastad i Dduw a'r Tad am bob peth yn enw ein Harglwydd Iesu Grist. Gwneler eich deisyfiadau chwi yn hysbys ger bron Duw, mewn ymbiliau a gweddiau, gyda diolchgarwch. Gwnewch bob peth yn enw yr Arglwydd Iesu, gan ddiolch i Dduw a'r Tad trwyddo ef. Trwyddo ef, gan hyny, offrymwn aberth moliant yn wastad i Dduw, yr hyn yw ffrwyth ein gwefusau yn cyffesu i'w enw ef.' Yr ydwyf erbyn hyn wedi fy llwyr argyhoeddi, mae un