Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/197

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'r achosion o aflwydd ein gweddiau ydyw ein bod yn diolch llawer rhy fach ynddynt. Medrai Job ddiolch pan yr oedd Duw yn ei ddiosg o'r cwbl a feddai yn y byd, ac felly y gwnai Dafydd hefyd,—' Bendithiaf yr Arglwydd bob amser, a'i foliant fydd yn fy ngenau yn wastad.' Diolch mwy a ddylem.

2il. Rhagoriaeth pregethau. Y mae yn ymddangos i mi fod cymaint o ragor rhwng un pregethu a'r llall yn y dyddiau hyn, ac sydd rhwng dodi cleddyf yn y wain a'i dynu allan a'i ddefnyddio. Y mae llawer o'n pregethau ni yn yr oes hon yn rhy debyg i guddio'r cleddyf yn y wain, ac yn aml y rhai a fedro roddi'r cleddyf yn y wain fwyaf trefnus a deheulaw yw y rhai a glodforir fwyaf. Ond och, fy mrawd anwyl, ni bydd neb yn teimlo un min iddo fel hyn. Y mae yn ddaufiniog, ond ni chlywir oddiwrth ei fin fel hyn, nis gall 'gyrhaedd trwodd hyd wahaniad yr enaid a'r ysbryd, y cymmalau a'r mer, i farnu meddyliau a bwriadau y galon.' O mor ddigalon yw gweled rhai yn trin y cleddyf yn nghanol gelynion y Brenin heb ddim tebyg i glwyfo nac archolli, y cleddyf yn y wain yr holl amser. Y mae arnaf ddirfawr ofn fod ein pregethau fel cadach, o'r dechreu i'r diwedd, wedi eu troi oddeutu min y cleddyf; gan hyny, os mynwch lwyddo mwy yn eich gweddiau, anfonwch fwy o ddiolchgarwch, ac os dymunech weled mwy llwydd ar bregethu yn Llangeitho, a'r ardaloedd, a'r wlad o amgylch, eiddigeddwch âg eiddigedd mawr dros ben am gael y cleddyf o'r wain.

Dymunwn ein dau ein cofio atoch chwi a'ch teulu, ac at bregethwyr a blaenoriaid a holl aelodau eich eglwys chwi yna.

Ydwyf, fy anwyl gyfaill, yr eiddoch,

EBENEZER RICHARD.