rhyfeddol a hyn. Yr ydwyf wedi pregethu yn nghylch pymtheng ngwaith er pan wyf yma. Yr wyf yn amcanu bod yn ffyddlon ar ychydig bethau, ac ychydig ydynt yn wir. *******
Ydwyf, fy anwyl gyfeillion,
Yr eiddoch heb dwyll,
EBENEZER RICHARD.
Yn mhen ychydig wythnosau ar ol ei ddyfodiad i Lundain, dechreuodd arwyddion amlwg ymddangos fod ei hen afiechyd ar ymosod arno unwaith eto, fel y dywed efe ei hun yn y Cof-lyfr, o ba un yr ydym wedi gwneuthur amryw bigion yn barod. Nid oeddwn ond canolig wrth fyned i'r brif-ddinas, a chymerais anwyd newydd a thrwm wedi cyrhaedd yno. Teimlais fy hun yn fuan yn llesg, gwasgedig, a thrymaidd iawn, fel yr oedd y symudiad lleiaf oddeutu yn boenus hynod. Fy anwyl Edward, yn canfod y cyflwr yr oeddwn ynddo, a'm gwaedodd yn helaeth, ac a roddodd i mi gyffeiriau nerthol iawn, yr hyn am ychydig amser a weiniasant ryw gymaint o seibiant. Ond canfyddwyd yn fuan nad oedd yr anhwyldeb wedi ei symud, ond yn hytrach ei fod wedi ennill nerth yn y cyfansoddiad, nes yr oeddwn bron wedi fy ngorchfygu, ac yn amlwg fy mod yn suddo'n gyflym. Yr oeddwn y pryd hwn yn mron wedi colli pob cof a sylw, ac yr oedd natur yn hollol analluog i gynnal ei hun, nes ydoedd fy achos agos yn anobeithiol. Yr oedd yr ystorm yn rhuthro gyda grym dirfawr, ac yr oedd fy anwyl wraig a'm meibion yn nghanol y trallod dyfnaf, gan ddysgwyl dim llai y pryd hwn nac y byddai raid iddynt fy nghladdu yn Bunhill Fields, ac y byddai