Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/201

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn llawn o dosturi. Nid oes neb yn gwybod hyn yn well na nyni fel teulu. Ei garedigrwydd sydd wedi bod yn gynnaliaeth i ni trwy ein holl daith hyd yma, a'i ffyddlondeb ni phallodd. Dylasem adeiladu colofnau o ddiolchgarwch am ei ras o'r Aipht hyd yma, ond cyn b'o hir dygir allan y maen penaf, gan waeddi, Rhad, rhad iddo.'

"Fy anwyl ferched, cadwch ar dilerau da â'r cymmydogion yn gyffredinol, ond yn enwedig â Duw ac â'ch cydwybodau eich hunain, oblegid os bydd Duw trosoch, pwy a all fod i'ch herbyn? ac os bydd tystiolaeth cydwybod o'ch plaid, bydd yn fwy o werth i chwi na bydoedd wedi eu pentyru yn nghyd. Mae cydwybod a Duw y rhan amlaf ar yr un ochr, ac yna, os cewch un, chwi gewch y ddau o'ch tu. Gofelwch rhag ymddwyn yn y fath fodd, fel y byddo arnoch gywilydd dywedyd wrth Dduw am dano, oblegid archolla hyn eich cydwybod, a dwg gwmwl rhwng eich heneidiau a Duw. Yr ydwyf yn eich cyflwyno i'w ofal ef bob dydd a nos. O bydded iddo eich gwaredu rhag pob niweid a phechod. O ïe, pechod yn enwedig, oblegid pechod yw'r gwenwyn yn mhob man. Dywedwch wrth ein cyfeillion crefyddol, yr ystyriem ef yn garedigrwydd mawr os bydd iddynt fod mor fwyn a gweddio am ein dyfodiad adref yn ddiogel, oblegid llawer a ddichon taer weddi'r cyfiawn.'

Ydwyf, fy anwyl Mary a Hannah,

Eich tad cariadus,

EBENEZER RICHARD.

Cyn ei ymadawiad o Lundain, derbyniodd Mr. Richard y llythyr canlynol oddiwrth ei gyfaill caredig, y Parch. John Elias.