Prawfddarllenwyd y dudalen hon
A'i achos mawr yn ein plith sydd yn agos at ein calon, gallwn ei adael yn dawel iddo. Er y carem ei gweled yn fwy o ddydd ar yr eglwys cyn i ni gael ein galw ymaith, a chael gweled yr arch ar ysgwyddau rhai mwy ysbrydol, eto ewyllys yr Arglwydd a wneler, ïe, a wneir.
Anwyl frawd, yr wyf yn taer ddymuno i'r Arglwydd eich adferu eto i fod yn hir ddefnyddiol yn ei winllan; er i fy meddwl ehedeg at ein ymadawiad-daw yn fuan.
'Bydded i'r Arglwydd gynnal meddwl eich anwyl briod yn ei thrallod wrth weled eich gwaeledd, ac mewn lle dyeithr.
Yr wyf fi a'm gwraig yn cofio yn garedig iawn atoch eich dau.
- Wyf eich cydymaith mewn cystudd,
- JOHN ELIAS.
- Wyf eich cydymaith mewn cystudd,
Tywyned yr Arglwydd ei wyneb arnoch.