Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/205

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar y wlad yn gyffredinol, teimlai fod rhyw ymdrech gorchestol yn angenrheidiol i wrthsefyll y llifeiriant dinystriol, ac yr oedd yn barnu fod y gymdeithas oedd newydd ymddangos yn Nghymru, yn meddu llawer o gymhwysder at gyflawni y gorchwyl hwn. Nid oedd yn ei ystyried yn beth gofynol, i'r dyben o brofi gwirionedd ei zel yn yr achos, i ddrwgdybio egwyddorion na chamddarlunio dybenion eraill, nas gallasent gydweled a chydfyned i'r un graddau ac efe ei hun ar y pwnc. Defnyddiai bob rheswm a chymhelliad moesol i ennill pawb i'r un grediniaeth, ond nid oedd foddlon gweled dim tebyg i erledigaeth neu chwerwder yn cael ei ddatguddio gan bleidwyr y gymdeithas tuag at eraill, gan farnu ond odid yr un peth a gweinidog enwog yn yr America, yr hwn a ddywedai ar y mater yma, Os na chaiff y cythraul un ffordd arall i ddystrywio achos da, fe dry yn goachman ei hunan, ac a’i gyr yn rhy chwyrn a chyflym. Eto, o'r ochr arall, dylid cofio na bu i un sefydliad daionus erioed gyrhaedd perffeithrwydd ar unwaith, a dideimlad a diddaioni yn wir yw y dyn na chanfyddo ac na chyfaddefo y daioni helaeth sydd er hyny eisoes wedi ei gyflawni trwy offerynoldeb y gymdeithas hon; ac os gellir ond ei sefydlu ar sylfeini cedyrn a diysgog, y mae y daioni sydd yn ystor ganddi i oesoedd dyfodol yn fwy nac y geill tafod ei draethu, yn fwy nac y geill dychymyg ei gynnwys. Diau i'w waith ef, yn nghyd a'i ddull ef yn cefnogi yr achos hwn, fod yn un o'r prif foddion i'w sefydlu yn mysg y Trefnyddion Calfinaidd yn y Deheudir. Yma y canlyn lythyr a dderbyniodd Mr. Richard ar yr achos hwn oddiwrth ei anwyl gyfaill, y Parch. Thomas Evans.