AT Y PARCH. EBENEZER RICHARD.
BARCHEDIG AC ANWYL SYR
Tair wythnos yn ol ysgrifenais atoch o'r blaen, i ddymuno arnoch yn y modd taeraf a fedrwn i ddyfod i gynnorthwyo Cymdeithas Cymedroldeb yn y dref hon; gan na chefais ateb, mae arnaf ofn fy mod yn troseddu ar eich amynedd, ond gan na chaf lonydd gan y committee, yr ydwyf unwaith eto yn arfer hyfdra tuag atoch i ddefnyddio geiriau Mr. Breese ei hun wrthyf neithiwr, ar ol i mi hysbysu na chefais un ateb oddiwrthych, Sgrifenwch eto gyda brys, a dywedwch wrth Mr. Richard fod yn rhaid iddo ddyfod i'n cymhorth, ac os na ddaw, bydd yr achos da hwn yn sicr o syrthio rhwng ein dwylaw, oblegid y mae tre a gwlad yn ein herbyn, ac maent eisoes wedi hen gynefino â'n storiau ni.' Gyda golwg ar yr achos ynddo ei hun, (oblegid yr un golygiadau a feddaf finau ar y mater hwn,) taer ddymuniad Mr. Breese, yn nghyd a'r caredigrwydd mawr a ddangosodd efe yn nghyd a'i gynnulleidfa i ni yn amser ein cymanfa, bydd yn hynod dda genyf i chwi ddyfod atom, a hyderaf na adewch ddim i eich rhwystro y waith hon os bydd bosibl.
Penderfyniad diweddar y committee yw i gyfarfodydd cyhoeddus y gymdeithas hon i gael eu cynnal yn y capeli ar gylch. Bu y diweddaf yn Nghapel Heol Awst; mae'r nesaf i fod yn Nghapel Heol Dw'r, ar y 27ain o'r mis hwn, sef nos Wener, am 7 o'r gloch; ond os bydd rhyw noswaith arall yn fwy cyfleus i chwi wrth ddychwelyd o Sir Benfro, mae'r cyfeillion yn foddlon cyfnewid er eich mwyn, ond yn unig cael gwybod gyda'r cyfleusdra cyntaf. Gan fy mod yn hyderus eich