Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/207

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bod wedi derbyn fy llythyr diweddaf ar yr achos hwn, ni chwanegaf. Mae fy mhriod yn cyduno â mi i gofio atoch chwi, Mrs. R., yn nghyd a'ch teulu caredig oll. Wyf, barchedig ac anwyl Syr,

Eich egwan a'ch annheilwng gyfaill,

THOMAS EVANS.

O. Y. Gobeithiaf y gwnewch dreulio'r Sabbath canlynol i'r cyfarfod uchod yn ein plith. T.E.

Rhoddwn yma ychydig bigion o'r gwahanol lythyrau a dderbyniasom oddiwrtho ar ol ei ddychweliad i'r wlad y tro hwn.

FY ANWYL HENRY,
. . . . . . Yr hanes a roddwch yn eich llythyr diweddaf am yr argoelion cysurus o'ch blaen yn Marlborough Chapel, a'n dygodd ar ein gliniau i ddiolch i Roddwr pob rhodd ddaionus a phob rhodd berffaith,' oblegid heb ddylanwadau yr Ysbryd Glan byddai raid i ni lafurio yn ofer, a threulio ein nerth yn ofer ac am ddim. O bydded i chwi a minau gael ein cadw mewn ysbryd ymddibynol, yn dysgwyl am ei weithrediadau nerthol a graslawn ef i wneuthur y gair yn effeithiol, oblegid efe yn unig a eill roddi y cynnydd. A pha raddau bynag o lwyddiant a ganiateir i'ch hymdrechiadau, gochelwch, fy anwyl Henry, rhag logellu (pocketing) dim o arian eich Meistr. Wrth yr arian yr wyf yn golygu y clod a'r anrhydedd. Duw eiddigus ᎩᎳ ein Duw ni, yn eiddigus am ei foliant, oblegid efe a ddywedodd, Myfi yw yr Arglwydd, dyma fy enw, a'm gogoniant ni roddaf i arall, na'm mawl i ddelwau cerfiedig.' Ni oddef i neb i'w yspeilio, yn enwedig o'i