Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/232

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ion gwladol, ond yr oedd ei farn yn eithaf penderfynol o blaid rhyddid, yn yr ystyr helaethaf o'r gair. Yr oedd gormes o bob math yn ei gynhyrfu yn ddirfawr, ac nid oedd dim a hoffai yn fwy na gweled gorthrymwyr, neu bleidwyr y cyfryw, yn cael eu fflangellu gan hyawdledd digllon cyfiawnder. Fel engraifft o'i deimladau ar y pynciau hyn, gellwn grybwyll yma yr ymddiddan canlynol a glywsom rhyngddo ef a gwr arall, yn ystod ei ymweliad diweddaf yn Llundain. Ryw ddiwrnod, wrth fyned trwy Smithfield gyda'i wraig a'r gwr rhag-grybwylledig mewn cerbyd, sylwodd Mr. R. wrth ei wraig, Dyma'r fan, Mary fach, lle y merthyrwyd llawer o'r hen dduwiolion. Ie, ebe'r gwr oedd gydag ef, ond y mae yn amser braf arnom ni yn awr. Ydyw, ebe yntau, y mae yn well yn ddiau, ond y mae llawer o erledigaeth eto. Beth mae dynion yn feddwl wrth y Toleration Act? Dim ond ein tolerato ni y maent hwy eto. O ffei! ffei! goddef dynion i addoli Duw yn ol eu cydwybod.