ddystaw iawn yn nghylch yr ysgymun-beth sydd yn guddiedig yn nghanol eu pebyll' hwy eu hunain. Maent trwy hyn yn twyllo llawer un, fel y gwelsoch y plant yn cael eu twyllo yn nghylch (nyth yr aderyn. Mae'r aderyn yn canu yn uchel ac yn iach ar ben rhyw lwyn, a'r bachgen bach wrth ei weled yno yn myned i chwilio am ei nyth yn mon y llwyn hwnw. Ond O mae'n camsynied yn mhell. Mae ei nyth ef rhywle draw yn nghanol y drysni; a phan byddo gerllaw yno, nid yw yn canu dim, ond yn hedfan yn ol ac yn mlaen mor ddystaw fel prin y gallwch glywed swn ei aden.
A oes cymdeithas yn cael ei chynnal rhwng eich enaid chwi a Duw? Mae hyn yn beth mawr mewn crefydd i bawb, ond yn enwedig i chwi. Mae'n beth chwithig iawn fod y gwas yn y tŷ am flwyddyn heb ymddiddan un gair â gwr y tŷ. Mae'n anhawdd credu fod y gwaith yn myned yn mlaen yn hwylus, tra byddo'r steward heb ddim cyfrinach â'r Meistr, ond mae'n waeth bod yn flaenoriaid yn eglwys Dduw heb gymdeithasu âg ef—fod yn Jerusalem am ddwy flynedd heb weled wyneb y Brenin. Ac os bydd cyfrinach, bydd ei hol i'w ganfod arnoch, oblegid mae cymdeithas â'r Arglwydd yn beth effeithiol iawn. Pan ddaeth Moses i lawr o'r mynydd, yr oedd yr Israeliaid yn deall ei fod wedi bod gyda Duw, oblegid yr oedd ei wyneb yn dysgleirio; felly dylai fod dynion yn medru canfod arnoch chwithau eich bod yn cymdeithasu â Duw, trwy fod dysgleirdeb sancteiddrwydd yn eich profiad a'ch ymarweddiad.
Cofiwch mae blaenoriaid ydych. Dylai blaenor fod yn mlaen yn mhob peth, mewn gwybodaeth, mewn profiad, mewn defnyddioldeb. Fel y dyn sydd yn arwain y fedel; os bydd y bachgen sydd ar ben y