Duw, dryllio yr hwn a ddrylliodd Duw, yn lle ceisio rhwymo ei friwiau. A gofalwch beidio a thaflu tram- gwydd ar ffordd y rhai a fyddo yn dyfod, oblegid ychydig sydd ddigon i dramgwyddo a digaloni un gwan sydd yn dechreu troedio. Pan byddo'r plentyn bach yn ceisio cerdded ar y cyntaf, mae'r fam yn ofalus iawn i symud pob peth oddiar y ffordd. Mae e'n rhy wan,' meddai hi, ‘i godi ei droed fach dros ddim byd, ac ymswynwch rhag fod y gaib neu'r fwyall ar y llawr o'i flaen; rhaid cael y llwybr yn glir cyn y gallo ddechreu.' Felly chwithau, fy nghyfeillion, byddwch ystyriol o wendid dynion fo'n ceisio am y tro cyntaf rodio yn y ffordd, a gwnewch lwybrau uniawn o'u blaen, fel na throer y cloff allan o'r ffordd.' Ac ar yr ochr arall, peidiwch ymgwyno â dynion iach eu hys- bryd, sydd heb eu hiawn argyhoeddi̟ o bechod, a dweud, Mae'n dda iawn genym dy weled yn dyfod i dŷ Dduw, yn lle dweud yn onest, Mae eisiau siotsen arnat ti eto. Yr Ysbryd Glan a'ch cynnorthwyo i iawn farnu, ac i adnabod cam flas![1]
Mae angen am ddoethineb mawr wrth drin achosion dynion yn yr eglwys, i gymhwyso eich triniaeth at wahanol gymeriadau. Nid yr un pethau ac nid yr un dulliau sydd addas i bob math. Nid yr un ffordd yr ydych yn gymeryd i drin pob math o anifeiliaid. Os ydych am arwain y ceffyl i ryw le, y peth goreu yw defnyddio'r ffrwyn; ond os bydd eisiau arwain y mochyn, chwi gyfrifech y dyn hwnw yn ffol iawn a amcanai ffrwyno'r mochyn. O na, mae'n rhaid cael y stwc, ac yna fe ganlyn yn naturiol. Ac felly y mae
- ↑ Rhoddodd y cyngorion uchod i flaenoriaid eglwys lle yr oedd diwygiad grymus ar yr amser.