Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/260

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr ydych chwithau wedi cael eich troi ar y maen am ychydig o droion yn ddiweddar, a gobeithio eich bod yn gloywi ac yn myned yn fwy awchus yn erbyn pechod. Dylem fod yn ofalus iawn na f'o cystuddiau yn myned heibio heb ein bod yn cael puro trwyddynt i ryw raddau, oblegid hyn yw'r dyben, tynu ymaith y pechod. Weithiau pan, byddo'r cawl yn berwi, fe ddaw rhyw un â'i ledwad yno, ac fe gyfyd yr yscum ymaith, ond os gadewir ef y pryd hyny heb ei godi, fe ferwa trwyddo nes byddo'r cwbl yn gymmysg; felly 'rwyf yn gobeithio fod y gwr wedi bod yn cymeryd peth o'r yscum ymaith tra yr oeddech yn y berw mawr, oblegid gwae,' meddai'r prophwyd, 'y crochan yr hwn y mae ei yscum ynddo, ac nid aeth ei yscum allan o hono.'

Ar achlysur o ddiarddel dyn ieuanc am bechod gwaradwyddus, llefarodd Mr. R. fel hyn wrth eglwys, Mae arnaf ofn nad ydym yn teimlo fel y dylem pan byddo troion fel hyn yn cymeryd lle. Nid oedd yr Apostol yn beio ar y Corinthiaid am y pethau anghysurus oedd yn eu plith, ond, medd efe, ni alarasoch yn hytrach.' Mae'r diafol yn dwyn dynion diras i'r eglwys er mwyn tynu gwarth ar yr achos, ond er hyny ein dyledswydd ni yw galaru drostynt, canys nid ydynt yn fwy abl i ddyoddef tân uffern na rhyw rai eraill. Dylem alaru yn drwm hefyd, am y dianrhydedd mawr sydd yn cael ei dynu ar Grist a'i achos. Clywsoch ddweud ambell dro am rai angladdau, 'Doedd neb yn y lle yn galaru nac yn wylo, ac y mae genym ninau achos i ofni fod llawer o angladdau ysbrydol yn cymeryd lle yn ein plith ni, am ba rai y gellir dywedyd, nid oedd neb yno'n galaru.