PREGETH [1] Y PARCH. EBENEZER RICHARD,
Ar Act. xxvi. 18.—I agoryd eu llygaid.
MAE y geiriau hyn yn dyfod i mewn yn yr araeth ryfeddol hòno a draddodwyd gan yr Apostol Paul o flaen Agrippa, Ffestus, Bernice, ac eraill.
Yr oedd Paul y pryd hwn yn garcharor mewn cadwyn am air Duw, ac am dystiolaeth Iesu Grist, ac wedi ei ddwyn ger bron llywiawdwyr a breninoedd oblegid ei ymlyniad wrth grefydd; ac wrth sefyll ger bron y fainc y mae yn cael cenad i ateb drosto ei hun, ac wrth ateb y mae yntau yn defnyddio y cyfle i wneuthur yr araeth anghydmarol hon. Y mae yn dangos yma dri pheth am dano ei hun.
1af. Ei fuchedd o'i febyd. Y modd y codwyd ef i fynu wrth draed Gamaliel, ac mai yn ol y sect fanylaf o'n crefydd ni y bum i fyw yn Pharisead.' 2il. Y tro rhyfedd a ddaeth arno. Y modd y galwodd Crist ef, ei droi o fod yn Iuddew i fod yn Gristion, o fod yn erlidiwr i fod yn weddiwr, o fod yn gablwr Crist yn bregethwr Crist, ac yn ewyllysgar i ddyoddef dros ei enw. 3ydd. Ei anfoniad gan Grist at y cenedloedd, at y rhai yr wyf fi yn dy anfon di yr awr hon.' Geiriau Crist wrth Paul yw y rhai hyn, ac yn cael eu hadrodd gan Paul o flaen Agrippa; ac wrth nodi ei anfoniad i fod yn bregethwr Crist, y mae yn dangos y dybenion i ba rai yr oedd yn cael ei anfon, ac felly yn dangos
- ↑ Ysgrifenwyd y bregeth hon gan yr Awdwyr ar waith Mr. Richard yn ei thraddodi, yn y flwyddyn 1829, yn Nghaerfyrddin.