dybenion mawr gweinidogaeth yr efengyl yn mhob oes o'r byd, I agoryd eu llygaid, ac i'w troi o dywyllwch i oleuni.' Dyma yr amcan mawr wrth ei anfon i ganol y cenedloedd deillion, i agoryd eu llygaid;' a chan eu bod yn ddeillion, nid eill dim fod yn fwy defnyddiol iddynt nac agor eu llygaid. Nid llygaid eu cyrph a feddylir, (er y mae yn ddiau i'r Apostol dderbyn awdurdod gwyrthiol oddiwrth Grist i roddi llygaid i ddeillion naturiol,) ond llygaid y deall, llygaid y meddwl, llygaid ysbrydol.
Gwelwn yma hefyd nad oedd Paul a'i frodyr i fod yn ddim yn y gorchwyl yma ond offerynau, ac nid eill cenadon y gair fod yn ddim hyd y nos hon ond fel y defnyddir hwy gan Grist. Efe yn unig a all agor llygaid y deillion, ac fe ddanfonir yr efengyl i ychydig ddyben i blith deillion, onis agorir eu llygaid. Gellwch ddifyru deillion, gellwch ganu tune wrth eu bodd, ac eto bod eu llygaid yn nghau, ond y gymwynas benaf â'r dall yw agor ei lygaid.
I. Fod pechaduriaid wrth natur â'u llygaid yn nghau yn mhob gwlad, o bob iaith, ac yn mysg pob cenedl→ yn ddeillion ysbrydol.
II. Mae gorchwyl Duw yw agor llygaid pechadur. III. Mae gweinidogaeth yr efengyl yw y moddion appwyntiedig ac arddeledig gan Dduw i agor llygaid deillion.
I. Fod pechaduriaid wrth natur â'u llygaid yn nghau. Y mae dallineb naturiol yn tarddu o amryw achosion. 1. Y mae rhai wedi eu geni felly o groth eu mam; dyna fel yr oedd y dyn hwnw yr agorodd Crist ei lygaid, 'Ni a wyddom mai hwn yw ein mab ni, ac mae yn ddall y ganwyd ef.' 2. Henaint ac oedran yn pylu ac yn tywyllu y llygaid; fel hyn yr oedd yr hen batriarchiaid, Isaac a Jacob. Mae esiamplau am lawer