heddyw nac sydd bob dydd. Mae rhyw un yn ateb, fod Iesu o Nazareth yn myned heibio. Mi debygwn y clywn i e'n dywedyd, O yr oeddwn yn dysgwyl y cyfle er ys llawer dydd; yn awr mi waeddaf arno, ‘Iesu, fab Dafydd, trugarha wrthyf!' 'Roedd yno ryw gentry yn rhodio o flaen y dyrfa yn dechreu ei geryddu,—— Taw son, paid a bod yn impudent i flino'r athraw; ni fu'r gwr mawr a'i gwmni erioed y ffordd hon o'r blaen, ac a thi sydd yn myn'd i roi dy nadau? Ond lwyddodd dim gydag ef i dewi; efe a lefodd yn uwch o lawer iawn, ‘Iesu, fab Dafydd, trugarha wrthyf.' Yn awr syned nefoedd a rhyfedded daear gyda fi wrth y gair nesaf, A'r Iesu a safodd!' Fe safodd yr haul pan galwodd Joshua, fe arosodd y lleuad ar gais tywysog Israel, ond dyma beth anfeidrol fwy, Creawdwr yr haul a'r lleuad yn aros wrth fod cardotyn tlawd, hen feggar dall yn gwaeddi arno; ac mi ddych'mygwn y gwelwn rhyw ddyn calon-dyner yn rhedeg a'r newydd anwyl iddo, Cymer gysur; y mae efe yn galw am danat.'
Y MAE y cynlluniau (sketches) canlynol o bregethau wedi eu cymeryd o'r nodau hyny a fyddai Mr. Richard arferol o'u parotoi yn ei fyfyr-gell cyn ymddangos yn y cyhoedd.
Act. xxviii. 18.— Ac o feddiant Satan at Dduw.
I. Sefyllfa dyn wrth natur-' yn y tywyllwch;' tywyllwch pechod, anwybodaeth, ac anghrediniaeth. Ioan i. 5. a iii. 19. 2 Cor. vi. 14. Eph. v. 8, 11.
1. Yn y tywyllwch am Dduw a'i berffeithiau. Jer, ix. 6. Ioan xv. 21. 1 Thes. iv. 5. 2 Thes. i. 8.
2. Am bechod a'i ganlyniadau. Rhuf. vii. 7, 13. Psalm li. 4. Gen, xxxix. 9.