Lundain, bu farw ei dad-yn-nghyfraith, Mr. William Williams o Dregaron, yr hwn er priodas Mr. Richard a fu yn byw yn ei deulu ef. Dygwyddodd hyn o fewn ychydig ddyddiau ar ol marwolaeth un o'i blant, baban ieuanc, yr hwn a fu farw yn mhen ychydig oriau ar ol ei enedigaeth. Wrth goffâu yr amgylchiadau hyn mewn cof-lyfr a gedwid ganddo, ac a alwai "The Family Register," dywed ar yr 8fed o Awst fel y canlyn:—Ar ol desgrifio arwyddion afiechyd ei dad-yn-nghyfraith am amryw ddyddiau yn flaenorol, ysgrifena, "Y boreu heddyw, am saith o'r gloch, efe a'n gadawodd ni am fyd arall a gwell. Heddychol yn ei fywyd, felly hefyd yr oedd yn ei farwolaeth: nid oedd ganddo ddim i'w wneuthur ond marw, oblegid gan ei fod wedi ei gyfiawnhau trwy ffydd, yr oedd ganddo heddwch tuag at Dduw, trwy ein Harglwydd Iesu Grist.' Fel hyn, mewn llai na bythefnos, ymwelodd angeu ddwy waith â'n teulu bychan, a chymerodd yr ieuangaf a'r hynaf, yr hên-wr a'r baban;' y naill oddeutu tair awr a hanner, a'r llall yn cyfrif 86 o flynyddau." Ar y 23ain o'r un mis, derbyniodd hefyd y newydd galarus am farwolaeth ei fam, ac aeth i lawr yn ebrwydd i Drefin erbyn y claddedigaeth; "a dyma," medd efe, "un don drachefn, oblegid y mae wedi bod yn ddiweddar yn don ar don yn curo arnom. Heddyw (24) y cyflwynasom i'r bedd gorph marwol ein hanwyl fam, yn ymyl arch ein hanrhydeddus dad."
Dilys yw genym mae nid annerbyniol gan lawer fydd gweled yma y pigion canlynol o lythyrau a dderbyniodd oddiwrth y gwas ffyddlon hwnw i Grist, y Parch. David Evans, o Aberayron, yr hwn y mae ei goffadwriaeth yn barchus ac yn anwyl gan gannoedd hyd y dydd hwn.