Yr oedd yr ysgrifenydd y pryd hwnw yn gwasanaethu yn eglwys Gymraeg Wilderness Row, Llundain. Ymddengys fod yr eglwys yr amser hwnw yn dra helbulus a therfysglyd, oherwydd rhyw amgylchiadau anghysurus mewn perthynas i rai o'r aelodau, ac am hyny y mae rhai pethau yn cael eu crybwyll yn y llythyrau nad ydym yn barnu yn ddoeth eu gwneuthur yn gyhoedd.
ANWYL A PHARCHEDIG FRAWD,
"Mae yn dda genyf gael y cyfleusdra i'ch hannerch â'r ychydig linellau canlynol, gan obeithio y bydd iddynt eich cael chwi a'ch teulu yn iach; a, thrwy fawr drugaredd a thiriondeb yr Arglwydd, nid wyf finau ddim yn waeth fy iechyd na phan ddaethum oddi cartref. Mi fum yn bur wael yr wythnos gyntaf ar ol dyfod yma, ond yn awr, trwy drugaredd, yr wyf yn llawer gwell. Mi gefais gyfeillion siriol a charedig yn fy nerbyn pan ddaethum yma, er hyny trymaidd ac isel yw fy meddwl y rhan fwyaf o'r amser. Yr unig beth sydd radd yn cynnal fy meddwl gwan i fynu, yn ngwyneb pob tywydd, yw hyny, sef mae ar gais a dymuniad fy anwyl frodyr y daethum yma, a bod yr achos y daethum o'i herwydd yr achos mwyaf yn y byd; ac mi debygwn ambell funud mae y fraint fwyaf yn y byd yw cael bod gyda'r achos hwn. Nid oes genyf fawr i'w ddywedyd yn bresennol am amgylchiadau yr eglwys yn y lle hwn. Mae yma ryw bethau gofidus yn mron bob society er pan ddaethum yma. Ond yn nghanol y pethau gofidus hyn, yr ydym yn cael peth achos i lawenhau weithiau fod yr Arglwydd mawr yn gofalu am ei achos, oblegid y