Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae y llythyr canlynol yn esbonio ei hun:

Y brodyr yn Sir Aberteifi yn gynnulledig yn eu Cyfarfod Misol, at y brodyr yn Ngwynedd, yn gynnulledig yn eu Cymdeithasiad Flynyddawl, yn y Bala, yn anfon annerch:

Gras, trugaredd, a chariad oddiwrth Dduw ein Tad, yr Arglwydd Iesu Grist, a'r Ysbryd Glan y Dyddanydd, a fyddo gyda chwi oll, ac a orphwyso yn ehelaeth arnoch chwi oll.

"FRODYR ANWYL A HOFF,

Yr ydym yn atolwg i chwi ein gwrando ar fyr eiriau, oblegid ar fyr eiriau yr ysgrifenasom atoch. Y mae yn ofidus genym fod amryw o'n brodyr yn y sir hon, a fyddent arferol er ys llawer o flynyddau o fod yn Nghymdeithasiad y Bala, eleni yn cwbl fethu, fel y gellwch glywed gan y brodyr sydd o'n gwlad ni yna; ac yr ydym yn gobeithio na bydd i neb o honoch gyfrif eu habsennoldeb i ddiffyg serch ac ymdrech gyda'r gwaith, nac ychwaith i ddiffyg awydd am eich cymdeithas chwithau yn yr efengyl, ond yn hollawl ac yn gyfan-gwbl i ddiffyg gallu.

Yr oedd ein Cymdeithasiad Flynyddawl ni (fel y. gwyddoch yn dda) yn arfer cael ei chynnal er ys yn agos i 80 mlynedd yn Llangeitho, gydag ychydig iawn o lysiant, ond barnwyd eleni mai gwell fuasai symud y gwersyll yn nes i amddiffynfa (citadel) y gelyn, fel gallai'r magnelau mawrion gael gwell cyfle i ollwng ar fagwyrydd y castell. O ganlyniad, mae y rhyfel wedi ei gyhoeddi, a'r lle a'r amser wedi eu nodi i agor y frwydr y lle yw Llanbedr, a'r amser y 6ed a'r 7fed o Awst nesaf. Nid oes neb o honoch chwi yn y Gogledd ag sydd yn adnabod y maes, nas bernwch fod