Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mor gysurus yn yr un arall. Y mae y gadair ac yntau yn ffurfio cyfathrach, yn dod i ddeall eu gilydd! Y mae yn ei chynyg, ambell waith, i ryw gyfaill fo yn galw, ond nid yw yn meddw] iddo ei chymeryd, ac os yn ddyn doeth nid ydyw yn debyg o wneyd hynny. Y mae yna ryw berthynas gyfrin yn ymffurfio rhwng dyn a'i gadair, sydd yn mynd yn gryfach, ac yn anwylach o hyd. "Nerth arferiad," meddir; eithaf posibl, ond fod yna ryw nerth ar waith sydd yn eglur i bawb. At hyn yr oedd y diweddar Fynyddog yn cyfeirio yn ei gân hapus i "Gartref." Yr oedd wedi bod ar grwydr, ond o'r diwedd, y mae yn dychwelyd i'r hen gynefin. Ac y mae yn credu fod pobpeth yn ei roesawu yn ei ffordd ei hun, y ci a'r gath, ie, a'r gadair lle yr eisteddai fin nos,—

Mae'r hen gadair hithau,
Yn estyn ei breichiau,
A bron a dweyd geiriau o gariad.