Tudalen:Can neu Ddwy.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

LLAN-Y-DŴR

Ni fûm erioed yn Llan-y-dŵr,
Ni fûm, nid af ychwaith.
Er nad oes harddach man, 'r wy'n siŵr,
Na Llan-y-dŵr
A'i fyd di-stŵr,
Nid af, nid af i'r daith.

Bûm lawer hwyr yn crwydro'r rhos
A dringo'r bryn gerllaw
I weld rhyfeddod min y nos
Yn fantell dlos
O aur a rhos
Am hedd y pentref draw.

Fe chwalai'r tonnau arian ddŵr
Hyd dywod aur y fan,
A thrôi gwylanod di-ystŵr
O'r arian ddŵr
I gylchu tŵr
A mynwent hen y llan.

Ond gwn ped awn i Lan-y-dŵr
Y cawn i'r adar hyn
Yn troelli'n wyllt a mawr eu stŵr
O gylch y tŵr,
A'r arian ddŵr
Yn ddim ond ewyn gwyn.

Ni fûm erioed yn Llan-y-dŵr,
Ni fûm, nid af ychwaith.
Er nad oes harddach man, 'r wy'n siŵr,
Na Llan-y-dŵr,
A'i fyd di-stŵr,
Nid af, nid af i'r daith.