Tudalen:Can neu Ddwy.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PE BAWN I...

Pe bawn i yn artist mi dynnwn lun
Rhyfeddod y machlud dros benrhyn Llŷn:

Uwchmynydd a'i graig yn borffor fin nos
A bae Aberdaron yn aur a rhos.

Dan Drwyn-y-Penrhyn, a'r wylan a'i chri
Yn troelli uwchben, mi eisteddwn i

Nosweithiau hirion nes llithio pob lliw
O Greigiau Gwylan a'r tonnau a'r rhiw.

Ac yna rhown lwybyr o berlau drud
Dros derfysg y Swnt i Ynys yr Hud:

Mewn llafn o fachlud ym mhellter y llun
Ddirgelwch llwydlas yr Ynys ei hun.

“Ond 'wêl neb mo Enlli o fin y lli."
"Pe bawn i yn artist", ddywedais i.