Tudalen:Can neu Ddwy.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

YR HEN DELYNOR

A welsoch chwi'r telynor hen
I lawr wrth bont y dref?
Mae pawb sy'n pasio'n rhoddi gwên
A cheiniog iddo ef.
O gainc i gainc, heb aros dim,
Mae'n werth cael gweld ei fysedd chwim
A gwrando swyn ei delyn fwyn
I lawr wrth bont y dref.

Pan dyfaf i yn ddyn, mi af
A'm telyn gyda mi
At bont y dref bob hwyr o haf
I diwnio'i thannau hi.
Fe fydd fy nghap yn llawn o bres
A phawb wrth basio'n dod yn nes
I wrando swyn fy nhelyn fwyn
I lawr wrth bont y dref.