Tudalen:Can neu Ddwy.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

HARDDWCH

"Ti a'i cei", medd un, "yng nglendid y wawr."
A thrannocth, cyn dydd, mi a ddringais y bryn
i weled holl liwiau'r wawr.
Ond dychwelais a’m calon yn drom.

"Ti a'i gweli", medd arall, "yng ngerddi'r rhos.
Yno y chwery, yno y chwardd."
Cerddais yn hir yng ngerddi'r rhos, a phluf y
petalau yn llithro i'r lawnt.
Ond nid oedd yno ond blodau a choed, ac ni
chlywais mo'i chwerthin ef.

Medd arall, a'r môr yng nglesni ei drem: "Ym
min y môr y clywi ei lais, lle plyg y tonnau eu
gwyrdd a'u gwyn. Ef yw telynor eu cerddi
hwy."
Crwydrais y traeth am oriau maith, ond nid oedd
yno ond ton a thon a lleddf ddiarhebion y
môr.

"Os deui", medd bugail, "i greigiau'r foel, ti a'i
gweli hyd lethrau'r grug."
Dringais yn llawen i'r gwyntoedd hir a cherdded
y rhosydd llwyd.
Ond hen ac unig ac araf fy ngham pan ddychwelais
hyd lethrau'r ŵyn.