Tudalen:Can neu Ddwy.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Medd bardd: "Yn hud y machlud y mae."
Blin oedd fy nhraed wrth ddringo'r bryn, a'r hwyr
yn aur ac oren a rhos.
O'r brig ni welwn ond haul ar ŵyr, yn suddo i
goed ymhell.

Yna medd arall, a'i lais yn dawel a chryf: "Mae
coeden geirios yn flodau'n fy ngardd, a'i
changau yn rhwydo'r sêr. Dani y gorffwys
Harddwch liw nos."
Syllais yn hir ar y sêr drwy'r gwlân, ond ni welais
ei fantell, ni chlywais mo'i anadl ef.

Llusgai fy nhraed ar fy nhaith tua thref, a
syrthiais ar fin y ffordd.
Llifodd y gwyll i'm llygaid llesg.

Pan lithrodd y golau i'm meddwl yn ôl, mi a
glywn dynerwch lleisiau o'm cylch, mi a
welwn addfwynder llaw a threm.
Mil harddach oeddynt na'r wawr a'r rhos, tecach
na golud machlud a môr.

Trannoeth, mi a ddringais y bryn â'm calon yn
llon,
A gwelwn fod popeth, popeth yn hardd.