Tudalen:Can neu Ddwy.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yna'r sibrydion
bloesg yn ddim ond anadl blin,
yn fawr yn y distawrwydd
ennyd cyn edwino ...

O gyrrau pella'r gorwel
hwyl wen yn araf ddiflannu;
arni, aur yr hwyrnos,
a'r nef ar wyr i'r nos.