Tudalen:Can neu Ddwy.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

GWANWYN

"Mi wellaf pan ddaw'r gwanwyn:
Bu'r gaeaf 'ma'n un mor hir.
A oes 'na argoel eto
Fod gwennol yn y tir?
Mae hi'n anodd mendio dim fel hyn
A phen yr Wyddfa i gyd yn wyn.

"Mi ddo'i at y gwanwyn
A chodi cyn daw'r gog.
Mi ddo'i pan gynhesith
Yr awel ar y glog.
Mae hi'n anodd mendio dim fel hyn
A phen yr Wyddfa i gyd yn wyn.

"Mi godaf at y gwanwyn:
A welaist ti oen ar fryn?
On' fydd hi'n braf cael stelcian
Am dipyn wrth y llyn?
Mae hi'n anodd mendio dim fel hyn
A phen yr Wyddfa i gyd yn wyn."

* * * *

Ni ddaeth rhyfeddod gwanwyn
Â'r gwrid yn ôl i'w wedd:
Ond pnawn o Ebrill tyner
A'n dug ni at ei fedd.
A chanai'r gog yng Nghoed y Ffridd
Pan glywn i'r arch yn crafu'r pridd.