Tudalen:Can neu Ddwy.pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ADERYN BRANWEN

(I Ll. Wyn Griffith wedi gwrando arno,
yn Harlech, yn rhoi ffurf fodern i stori
Branwen, gan adael yr aderyn allan.
Pan dynnai at ddiwedd y stori, wele
aderyn yn curo'n daer ar wydr y ffenestr
)


A gofi'r hwyr pan lithrai'r dydd i'r aig
uwch llosg lonyddwch Llŷn,
a thithau'n denu yn ôl i'w chraig
yn Harddlech y ryfeddol fun
a roes i harddwch dristwch, dro,
i dristwch harddwch byth,
ac i'r aderyn hwnnw nyth
uwch pob rhyw chwedl a fu, a fo?

Ti a'u gelwaist hwy yn ôl bob gŵr—
Matholwch ac Efnisien, Nisien, Brân—
a gyrru eilwaith Franwen dros y dŵr
i weddi o'i gwawd a'i throi'n ddi-gân.

Ond ni ollyngaist ti'r aderyn hoff i'r nef:
rhyw rith o'r oesoedd pell oedd ef
nad aeth erioed o fôr i dir—
rhyw gelwydd golau wedi'r gwir.

A gofi—na, ni hed o'r co'—
annisgwyl hwrdd ei adain o,
a churo a churo dig
y taer diwrthod big?

Ar hedd yr hwyr
nid oes a ŵyr
o b'le y daeth. O fôr? O dir?
Ond gwyddai ein distawrwydd hir
nad celwydd oll, nad celwydd oll mo'r gwir.