Tudalen:Can neu Ddwy.pdf/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y DIWAITH

Oni thry gwael o'i aelwyd
I ŵydd lleng y gruddiau llwyd?
Yn ddi-waith, ni wêl weithian
Ond mwg llin chwerthin a chân.

Dringo'r allt megis alltud
Llwyr y mae, is cellwair mud
Twr y syfrdan beiriannau.
Oeda'n brudd wrth goedyn brau
Dôr y gwaith, oedi a'r gwynt
Yn gyrru ei oer gerrynt
I'w esgyrn ...
Clyw gyrn y gwaith
Yn ei alw yntau eilwaith,
A sŵn traed yn atsain trwy
Gydol pob hewl ac adwy.
Daw lleisiau o'r drysau, dro—
"Hylô, Dai!" "Pa hwyl, Deio?"—
A gwawr arian uwch anial
Ysgwyddau y tipiau tal ...

Gerllaw'r olwynion tawel
Breuddwyd gwyw ydyw a wêl.
Hyd eira'i groen dua'r graith,
Oni wybydd anobaith,
Yn ei lwydwedd ond gweddi
A garw awch ei ofer gri—
"O Dduw, rho, dyro i'n dydd
Ynni taer yr hwterydd,
Ennyd wyllt i'w nwyd alltud
A'r gân mwy i'r genau mud."