Tudalen:Can neu Ddwy.pdf/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y SIOE

'R oedd yno, unwaith, sgwâr o dai
Ac ugain teulu, fwy neu lai.
Ond canodd seiren groch un hwyr
A chwalodd bom y lle yn llwyr.

Am hanner blwyddyn, fwy neu lai,
Rhyw domen oedd lle safai'r tai,
Nes dyfod giang i'w chlirio i ffwrdd
A gwneud y sgwâr yn noeth fel bwrdd.

Ond heddiw y mae yno sioe,
Ceffylau pren a hwyl di-hoe,
A thrio'ch llaw ar hyn a'r llall,
Neu gadw'ch pres, os ydych gall.

Na phoenwch, feirwon, am eich sgwâr.
Fe roed i chwithau, dro, eich siâr
O'r hwyl a'r helynt sy'n y sioe,
Ac wedi'r cyfan, hir yw'r hoe
Pan fydd ein dydd yn ddim ond doe.