Tudalen:Can neu Ddwy.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENSEIRI

Llunwyr eofn golofnau
Uwch brys a thirionwch brau
A rhyfyg y canrifau,—
Eu bri hwynt sydd i barhau.
De Leia[1], gawr huodl gŷn
A'i wyrthiau, yna Marthyn[2]
Ddiofer, a Gower[3] gynt—
Cyflawn eu dawn: amdanynt
Nid mudan, ddi-yngan yw
Un maen o feini Mynyw.

O'u dwys anhunedd a'u hamynedd maith,
O ddawn blynyddoedd, nobl yw ei naddwaith,
Her ei cholofnau, a gorwych lafnwaith
Derw y gorfu mawr hyder ei gerfwaith.
O'r oes hen erys eu hiaith—ynddi hi,
A'u gorau ynni drwy'i holl gywreinwaith.

Melys fu llunio'i mynor allorau,
Cangell a chwfaint o gywraint gorau,
A thario’n hedd ei thyrau—i ganfod
Ei chysgod bob rhod yn araf hirhau.


  1. Peter de Leia, y cyntaf o'r tri esgob a luniodd eglwys gadeiriol Tyddewi. Yr ail oedd
  2. Yr Esgob David Martyn (1296-1328), pensaer Capel y Gwragedd. A'r trydydd
  3. Yr Esgob Henry de Gower (1328–1347), adeiladydd y plas a lluniwr yr ysgrin enwog yng nghorff yr eglwys.